Am
Paratowch ar gyfer tridiau cyffrous o greadigrwydd ac anhrefn wrth i Ŵyl Ymylon Abertawe feddiannu canol y ddinas rhwng 27 a 29 Tachwedd!
Profwch y gorau o ddoniau newydd a sefydledig ar draws y meysydd cerddoriaeth a chomedi, y gair llafar a mwy a'r cyfan mewn tridiau bythgofiadwy.
O nosweithiau cartrefol i berfformiadau bywiog, bydd lleoliadau Abertawe'n llawn egni a diwylliant.
Nid gŵyl yn unig yw hon, mae'n ddathliad o bopeth hynod, creadigol a chymunedol. Penwythnos penigamp!
- Pryd: 27 - 29 Tachwedd
- Lleoliad: Amryfal leoliadau, canol dinas Abertawe
- Cost: Tocyn penwythnos, £25
Marciwch eich calendr a pharatowch i brofi digwyddiad diwylliannol mwyaf eclectig Abertawe.