Am

Ewch ar daith o’r casgliad hanesyddol parhaol i’r rhaglen arddangosfeydd dros dro cyfoes ac eiconig. Mae’r daith hon yn rhan o’n prosiect Straeon Abertawe lle cewch y cyfle i lywio dyfodol yr oriel.

Ariennir prosiect Straeon Abertawe gan Esmée Fairbairn Foundation a Chymdeithas yr Amgueddfeydd, ac mae’n dod â lleisiau newydd i ddehongli casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.

Man cyfarfod: Derbynfa 

Mae’r teithiau hyn yn addas i’r rheini sy’n 10 oed ac yn hŷn

£3.00  

Mae nifer gyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rhai sydd â Phasbort Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am fwy o fanylion.

Mae’n rhaid cadw lle. 

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein