Am
"My mission is to get people outside and experience the wonder of the natural world. Immersing yourself in nature is an effective antidote to the anxieties of modern life" - HAMZA YASSIN
Ymunwch â'r dyn camera a'r cyflwynydd bywyd gwyllt, Hamza Yassin ar antur newydd wrth iddo gyflwyno ei daith theatr genedlaethol gyntaf, 'My Life Behind the Lens' ar y llwyfan. Bydd Hamza yn rhannu ei ymdeimlad heintus o ryfeddod a'i atgofion mwyaf gwerthfawr o'i fywyd a byd natur.
Mae 'My Life Behind the Lens' yn addo bod yn sioe fythgofiadwy sy'n llawn antur, straeon a rhyfeddodau syfrdanol o'r byd naturiol.
Mae Hamza yn cyflwyno persbectif newydd i fyd natur ac mae'n credu bod ennyn diddordeb pobl ym myd natur a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig yn gallu cynnig safbwynt newydd ar y byd o'n cwmpas a sut y gallwn ei amddiffyn gyda'n gilydd.
Bydd Hamza yn rhannu straeon o'i deithiau ffilmio anhygoel ym mhedwar ban byd. Bydd y sioe yn cynnwys fideos syfrdanol, mewnwelediadau diddorol, straeon personol swynol ac angerdd dwfn dros natur wrth iddo wahodd cynulleidfaoedd o bob oed i ailgysylltu â'r byd gwyllt o'u cwmpas. Mae'r profiad byw unigryw hwn yn cynnig cipolwg ar fywyd a gwaith un o'r adroddwyr straeon am astudiaethau natur fwyaf poblogaidd ym Mhrydain.
"If you restore nature, then endangered wildlife will return" - HAMZA YASSIN