Am

Dewch i fwynhau gyda chôr Ffilharmonig Abertawe a Sinfonietta Prydain, dan arweiniad Jonathan Rogers, mewn perfformiad hudolus o'r Meseia gan Handel. Cafodd y gwaith gorchestol hwn ei gyfansoddi mewn 24 diwrnod yn unig ar gyfer ei berfformiad cyntaf ar y Grawys, 1742. Daeth bellach yn hoff draddodiad y Nadolig. Gyda'r unawdwyr gwadd Meinir Wyn Roberts, Leah-Marian Jones, Adam Gilbert a Richard Walshe bydd y cyngerdd yn codi calon ac yn ysbrydoli wrth i ni groesawu ysbryd yr ŵyl.