Am

Dewch i ddathlu synau a straeon cyffrous yn ystod cyngerdd gerddoriaeth i lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn Abertawe!

Dewch i ddathlu lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn Abertawe gyda chyngerdd gerddoriaeth fythgofiadwy yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe

Bydd yr arddangosiad diwylliannol hwn yn cyflwyno artistiaid, cerddorion a pherfformwyr arbennig sy'n cynrychioli cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Gallwch ddisgwyl diwrnod llawn cerddoriaeth fyw, ysbryd cymuned a dathliad o dreftadaeth.

Bydd perfformiadau gan:

  • Ify Iwobi a'i band
  • Keith Murrell a'i fand
  • Leila McKenzie
  • Lokibambino
  • Amari
  • Morakai
  • DJ Timi

Ymunwch â ni am brynhawn ysbrydoledig a fydd yn tynnu sylw at greadigrwydd, undod a chyfoeth yr amrywiaeth ddiwylliannol yng Nghymru. Tocynnau o £5.00 (+ffi trafodiad o £1.13)