Am
HANNAH LAING I DDOD Â'I SŴN 'DOOF' EGNÏOL I SINGLETON LIVE YN ABERTAWE
Bydd y DJ a’r cynhyrchydd cerddoriaeth sydd ar frig y siartiau yn perfformio fel prif artist mewn sioe awyr agored enfawr ym Mharc Singleton, Abertawe, yn ystod haf 2027.
Mae Hannah Laing, un o enwau mwyaf blaenllaw cerddoriaeth ddawns, wedi’i chyhoeddi fel yr artist diweddaraf i berfformio yn Abertawe fel rhan o gyfres gyngherddau gyntaf Singleton Live.
Bydd y DJ, cynhyrchydd cerddoriaeth a sylfaenydd label recordiau doof, yn dod â’i chyfuniad unigryw o techno, trance a cherddoriaeth ddawns galed i Barc Singleton ar 21 Awst, fel rhan o’r rhaglen newydd fawr o gyngherddau awyr agored fydd yn cael eu cynnal yn y ddinas yn ystod haf 2027.
Yn adnabyddus am gyfuno egni nerthol y clybiau â sain ewfforig, bachiadau cerddorol trawiadol a riffiau lleisiol y gellir eu hadnabod ar unwaith, mae Hannah yn un o’r enwau mwyaf cyffrous a mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth ddawns gyfoes.
Daeth ei sengl lwyddiannus gyntaf Good Love yn boblogaidd yn y 10 uchaf yn siartiau’r DU ac mae wedi cael dros 137 miliwn o ffrydiau, tra bod ei cherddoriaeth bellach wedi cael ei ffrydio fwy na 500 miliwn o weithiau ar draws llwyfannau digidol. Mae wedi denu cynulleidfa o dros ddwy filiwn o wrandawyr misol ar Spotify ac wedi gwerthu mwy na 150,000 o docynnau ar gyfer ei chyngherddau unigol fel prif artist yn ystod 2024 a 2025.
O ddechrau ei gyrfa fel DJ preswyl yn yr Alban tra'n gweithio fel nyrs ddeintyddol, i berfformio yn rhai o glybiau a gwyliau cerdd mwyaf blaenllaw'r byd, mae taith Hannah wedi bod yn rhyfeddol. Mae ei pherfformiadau’n cynnwys ymddangosiadau yn Creamfields, The Warehouse Project, fabric, CRSSD, Hideout a Beyond The Valley, yn ogystal â pherfformiadau mewn lleoliadau enwog yn Ibiza, gan gynnwys Amnesia a Hï Ibiza.
Gwnaeth hanes fel yr artist benywaidd cyntaf i sicrhau cyfnod preswyl yn Hï Ibiza ac mae wedi parhau i dyfu ei phroffil yn rhyngwladol, tra'n parhau i fod yn gysylltiedig â'r sîn ddawns yn yr Alban a fu’n ddylanwad ar ei steil cerddorol.
Hannah hefyd yw’r egni y tu ôl i doof, y label recordio, y gyfres o ddigwyddiadau a’r gymuned gerddoriaeth ddawns a lansiodd yn 2024. Mae recordiau’r label wedi cyrraedd brig y siartiau ar Beatport sawl gwaith, tra bod ei ddigwyddiadau byw wedi gwerthu allan mewn lleoliadau ledled y DU.
Bydd tocynnau ar gael i'r cyhoedd am 10am ddydd Iau 26 Tachwedd, tra bydd tanysgrifwyr cylchlythyr Croeso Bae Abertawe yn gallu manteisio ar gyfle unigryw i brynu tocynnau cynnar, gan ddechrau am 10am ddydd Mercher 25 Tachwedd. I brynu tocynnau cynnar gall cefnogwyr gofrestru yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-i-ymwelwyr/cofrestru-ar-gyfer-yr-e-gylchlythyr/ a dewis 'Newyddion Digwyddiad' fel un o'u dewisiadau tanysgrifio.
Cyflwynir Singleton Live gan DEPOT Live, Full Fat 360 a Cuffe & Taylor mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.
I gael y newyddion diweddaraf, ewch i https://www.croesobaeabertawe.com/singletonlive/
Ynglŷn â Singleton Live
Mae Singleton Live yn gyfres newydd o gyngherddau awyr agored mawr sy'n cael ei lansio ym Mharc Singleton, Abertawe, yn haf 2027, a fydd yn dod ag artistiaid mawr a chyngherddau unigryw yng Nghymru i’r ddinas. Wedi'i chyflwyno gan DEPOT Live, Full Fat 360 a Cuffe & Taylor mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, mae'r gyfres yn adeiladu ar hanes cerddoriaeth fyw gyfoethog y parc.
Yn ogystal â dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd mawr i Abertawe, bydd Singleton Live yn cefnogi sîn gerddoriaeth ehangach y ddinas, gyda chyfran o'r incwm yn cael ei ail-fuddsoddi mewn lleoliadau cerddoriaeth lleol.