Am
Cymysgedd eclectig o sain i leddfu diflastod mis Ionawr
Head Noise
Triawd electro-pync pennaf de Cymru, band hynod a ffurfiwyd mewn arddangosfa gelf, sy'n perfformio cerddoriaeth bync ynghylch diwylliant sothach, technoleg doredig a hurtrwydd bywyd modern.
Defnyddir synsetheiswyr, gitarau a geiriau swrrealaidd ganddynt i greu cerddoriaeth ddwys, arbrofol ac anghonfensiynol, dan ddylanwad y bandiau pync Devo a Suicide.
Head Noise: cerddoriaeth electro-pync anghonfensiynol.
nineplanfailed
Band roc amgen tri aelod o Abertawe y mae ei sain yn debyg i gyfuniad o Joy Division a The Strokes.
Ar ôl bwlch o ddeng mlynedd yn llechu yn y cysgodion, maent yn ôl gyda grym o'r newydd. Mae llais emosiynol a llinellau gitâr fas y prif leisydd Dim yn angori'r anhrefn, wrth i alawon gitâr gorffwyll G seinio uwchben sain drymiau taranllyd Nathan. Cyfuniad o The Cure a Therapy ond yn fwy bachog fyth.
Cerddoriaeth sy'n cyfuno arddull dywyll, egnïol y cyfnod ôl-pync â geiriau sy'n tynnu sylw at faterion cymdeithasol. Trac sain diarbed sy'n herio awdurdod.
nineplanfailed: Triawd anniddig gorau Abertawe
Dropping Like Flies
Ffurfiwyd y band Dropping Like Flies gan gyn-aelodau 100,000 Bodybags pan ddaethant at ei gilydd yn ddirgel yn ystod y cyfnod clo.
Bu'r sylfaenwyr Simon Cullen a Craig "Brewer" Bruzas yn ysgrifennu'n gyfrinachol - gan osgoi wardeniaid COVID a chymdogion busneslyd - i greu sain newydd: anghaboledig, gwleidyddol, tywyll o ddoniol.
Gyda'r gitarydd Brian Meade yn cwblhau'r triawd, dechreuon nhw berfformio gydag afiaeth yn 2021. Mae eu halbwm cyntaf Triggers yn gymysgedd ffrwydrol o roc caled, dychan miniog a sain uchel.
Egnïol. Gerwin. Craff.
Ariannwyd yr elfennau marchnata ar gyfer y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU