Am

Hejira – Cerddoriaeth Joni Mitchell

Nos Sul 6 Medi am 8.15pm
Mystwyr Abertawe, Sgwâr y Santes Fair

Mae Hejira yn fand 7 aelod sy'n dathlu cyfnod jazz arloesol Joni Mitchell ar ddiwedd y 70au. Mae'r band sydd wedi'i ysbrydoli gan yr albymau clasurol Hejira, The Hissing of Summer Lawns, Don Juan’s Reckless Daughter a Mingus, yn ogystal â'r recordiad byw eiconig Shadows and Light, yn dod â'r repertoire cyfoethog hwn yn ôl i'r llwyfan gyda cheinder a dilysrwydd. Anrhydeddir y caneuon diamser hyn mewn ffordd newydd, hyfryd gan griw o gerddorion jazz o'r radd flaenaf ynghyd â phrif gantores, sef yr aruthrol

Hattie Whitehead, sy'n cyfleu ysbryd ac arlliwiau llais a gwaith gitâr Mitchell i'r dim. 
•    Hattie Whitehead – llais a gitar
•    Ollie Weston – sacsoffonau tenor a soprano 
•    Chris Eldred – allweddellau
•    Pete Oxley – gitâr
•    Dave Jones – bas dwbl
•    Rick Finlay – drymiau
•    Marc Cecil – offerynnau taro

Gallwch ddisgwyl perfformiad sy'n cynnwys rhai o ganeuon eiconig Joni Mitchell fel Amelia, Woodstock, A Case of You, Song for Sharon, Edith and the Kingpin a mwy, wedi'u perfformio gyda didwylledd, celfyddydwaith a pharch mawr.
Archebwch eich tocynnau nawr!
 

 

Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/

 

Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!