Am
Heuldro'r Haf yn Oriel Elysium
Ymunwch â ni i ddathlu diwrnod hiraf y flwyddyn gyda noson gyffrous o gerddoriaeth fyw!
SILICA
Mae Silica, band roc amgen 4 aelod o Abertawe, yn ceisio arbrofi gyda cherddoriaeth roc y 90au a'r 00au cynnar drwy ddefnyddio dylanwadau cerddorol amrywiol gan bob aelod. Eu nod yw sefydlu eu hunain yn Abertawe cyn ymestyn i dde Cymru a gorllewin Lloegr.
POLYESTER SKIES
Triawd indi-roc o dde Cymru yw Polyester Skies. Gyda'u presenoldeb egnïol, eu melodïau diamser a'u cytganau pwerus, dylech gadw llygad am y band hwn yn sicr!
SLINKY MALINKY
Grŵp pedwar aelod o Gaerdydd yng Nghymru yw Slinky Malinky. Mae caneuon Slinky Malinky, sydd wedi'u hysbrydoli gan symlrwydd beirdd fel Brian Patten, yn cyfeirio at fywyd modern ond nid yw’r ystyr bob amser yn eglur.
FLER
Band roc amgen traws o Bort Talbot yng Nghymru yw Fler. Mae Fler, sydd wedi sefydlu eu stiwdio mewn ystafell wely, yn perfformio caneuon emo ac yn falch o fod yn cwiar. Ar gyfer cefnogwyr: Green Day, Hot Mulligan, Lambrini Girls, Viagra Boys