Am
'Funny, so smart and refreshingly honest' Sarah Millican
Mae Hollie McNish yn fardd na ddylech chi golli ei darlleniadau byw. Ar ôl gwerthu pob tocyn ar gyfer cyfres o sioeau ledled y DU, mae hi'n ôl gyda'r daith clawr papur o Lobster and other things I'm learning to love, llyfr a oedd ar restr The Sunday Times o'r llyfrau sy'n gwerthu orau. Gallwch ddisgwyl iaith gref a chynnwys i oedolion, wedi'u cyflwyno ar ffurf barddoniaeth grefftus iawn wrth iddi ddarllen o'r casgliad hwn a detholiad o ffefrynnau o Slug a Nobody Told Me.
'Makes me cry and howl with laughter' Paapa Essiedu
Rhybudd - cynnwys yn addas i bobl 14 oed a hŷn
Bydd yr awdur yn llofnodi llyfrau ar ôl y perfformiad. Manylion y perfformiwr arall i'w cyhoeddi.
Yr Awdur
Mae Hollie McNish yn fardd ac yn awdur sy'n treulio ei hamser rhwng Glasgow a Chaergrawnt. Hi oedd y bardd cyntaf i recordio yn Stiwdios Abbey Road, Llundain, ac enillodd Wobr Ted Hughes am Waith Newydd ym maes Barddoniaeth am ei chofiant barddonol am fagu plentyn - Nobody Told Me. Barn The Scotsman am y llyfr hwn: 'The World Needs this Book' Mae hi wedi cyhoeddi pedwar casgliad arall o farddoniaeth - Papers, Cherry Pie, Plum a Slug, a oedd yn un o werthwyr gorau The Sunday Times a chafodd ei gyfieithu i Ffrangeg dan yr enw Je souhaite seulement que tu fasses quelque chose de toi. Ei llyfr newydd yw Lobster and other things I'm learning to love. Mae hi wrth ei bodd yn ysgrifennu.
'Her writing is sublime' Ellie Taylor
'like Pam Ayres on acid' Lemn Sissay
'One of the best poets we have' Matt Haig
'Never have we needed her more' Stylist