Am

Grand Ambition a Theatr y Sherman
Ysgrifennwyd gan Rebecca Jade Hammond 
Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone 

Penlan, Swansea. Nawr. 

Yn eu harddegau, mae Ruby a Kyla yn treulio'u nosweithiau yn siop gyw iâr Cheney's, yn breuddwydio am symud i Vegas a mynd yn feiral. Ar hap maent yn cwrdd â Sadie, merch hŷn, llawer mwy cŵl, ac yn sydyn mae eu breuddwydion am bartïon pwll nofio a rholio mewn doleri o fewn eu cyrraedd... ond am ba bris? 

Dyma stori am gyfeillgarwch, colli diniweidrwydd a camfanteisio. Drama newydd danbaid, ddoniol a chythryblus gan Rebecca Jade Hammond sy'n dangos theatr Gymreig gyfoes ar ei mwyaf craff. 

Cefnogir gan Gyngor Abertawe, Llywodraeth y DU, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a People's Postcode Lottery/Postcode Community Trust. 

Rhybudd cynnwys - Mae'r cynhyrchiad hwn yn ymdrin â themâu i oedolion ac mae'n cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol a golygfeydd a all beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa.