Am

Hotel Et Al – Perfformiad byw, gyda gwesteion arbennig

Dydd Iau 12 Chwefror 2026
5:30 pm - 8:30 pm

Bydd Hotel Et Al, y prosiect cydweithredol rhwng Richard James (Evolution of Beauty) ac Angharad Van Rijswijk (Accü), yn rhyddhau cerddoriaeth newydd mewn ymateb i arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o’r arddangosfeydd Artes Mundi 11 gan Kameelah Janan Rasheed a Linder: Danger Came Smiling, sy’n cael eu harddangos yn yr oriel ar hyn o bryd, mae’r cerddorion wedi creu cyfres o weithiau newydd sbon sy’n cyfuno cerddoriaeth, sain a barddoniaeth.

Cefnogir gan Gyngor Abertawe a Menter Iaith Abertawe

Bydd y digwyddiad byw hefyd yn cael ei gefnogi gan NAWR. 

Am ddim, CADWCH LLE NAWR:- Hotel Et Al at Glynn Vivian Art Gallery event tickets from TicketSource

 

Cyfres o gyngherddau amlddisgyblaethol yn Abertawe a’r Gelli Gandryll yw NAWR. Maent yn perfformio cerddoriaeth arbrofol, byrfyfyr rhydd, ffilm, lo-fi, jazz rhydd, celf sain, cerddoriaeth werin a cherddoriaeth newydd. Nod gwaith NAWR yw cynnig lle agored a myfyriol i gynulleidfa brofi cerddoriaeth newydd mewn lleoliad croesawgar a phreifat.

Mae Hotel Et Al yn cynnwys y cyfansoddwr, y cerddor a’r artist sain Richard James (Evolution Of Beauty), a’r cyfansoddwr, y cerddor, y cynhyrchydd a’r artist sain a gweledol Angharad Van Rijswijk (Accü). Maent wedi gweithio gyda’i gilydd ar brosiectau cerddoriaeth, sain a gweledol amrywiol ers dros ddeng mlynedd, gan gynhyrchu gwaith ar gyfer radio, gosodiadau, perfformiadau byw a recordiau, ac ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Cyfoes, BBC Radio Cymru a Radio 3, Resonance FM, Prifysgol Abertawe, Amgueddfa Abertawe, Gŵyl Ryngwladol Abertawe a Libertino Records.

Am ddim, croeso i bawb.