Am
Yn dod i Abertawe a Glynn Vivian ym mis Mai, bydd I Remember Myself. At Gorff, gwaith dawns rhyngweithiol, trochol, cyfoes yn datgelu rhyfeddod ein cyrff fel archif i’n profiadau.
Gan gael ein hysbrydoli gan storïau’r bobl y byddwn yn eu cyfarfod ar y daith a’u plethu gyda rhai’r dawnswyr, Eddie Ladd, Anna Seymour, Gwyn Emberton a Dan Ozeri, bydd pob oriel yn cael ei thrawsnewid yn gapsiwl amser o atgofion symud yn ei pherfformiad unigryw ei hun.
Fe’ch gwahoddir yn chwareus i ddylanwadu ar yr hyn a ddatgelir neu gallwch yn syml eistedd yn ôl a chael eich cludo i fyd personol iawn o deithiau a rennir yn llawn gobaith, poen, cariad a cholled. Efallai y byddwch yn datgelu rhai o’ch perlau anghofiedig eich hun yn y broses.
Mae croeso i bawb.
Diolch I Gyngor Celfyddydau Cymru / Arts Council of Wales, Sefydliad Teulu Ashley a Sefydliad Cymunedol Cymru / The Ashley Family Foundation and Community Foundation Walesa Chynllun Grant Diwylliannol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Adferiad / a Welsh Government Cultural Grant Scheme administered by Adferiad.