Am
Mae gitarydd Pulp, Mark Webber, yn rhannu straeon o 40 mlynedd o un o fandiau mwyaf poblogaidd Prydain.
Mae gan Pulp a’r gitarydd Mark Webber straeon unigryw: cymerodd 13 mlynedd i’r band ecsentrig o Sheffield dorri drwodd, ac aeth Mark o ffan i aelod allweddol pan oedd y band ar ei anterth yng nghanol y 90au. Bydd Mark, sydd hefyd yn archifydd y band, yn rhannu lluniau a fideos prin wrth iddo olrhain cynnydd Pulp o fod yn gr ˆwp indie yn yr 80au i fod yn eiconau Britpop — a’u dychweliad buddugoliaethus eleni gydag albwm ar frig y siartiau, set yn Glastonbury, a thaith sydd wedi gwerthu pob tocyn.
Yn cynnwys sesiwn llofnodi llyfrau a chwestiynau gan y gynulleidfa, bydd Mark yn sgwrsio â’r newyddiadurwr Duncan Steer (cyflwynydd Baxter Dury, Don Letts a drymiwr Pulp Nick Banks).