Am
Mae VEG, a ffilmiwyd yn Abertawe, yn un o gyfres o ffilmiau byr Cymraeg o bob cwr o Gymru. Bydd panel holi ac ateb gyda chast a chriw lleol yn dilyn y dangosiad.
Mae Gwynfor wrth ei fodd yn ennill. Felly, pan fo garddwr newydd yn bygwth ei gyfle i ennill yn y ffair bentref, mae'n benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau mai ef sy'n fuddugol.
Cynllun hyfforddiant cynhyrchu ffilm a theledu arobryn o Gymru yw ‘It's My Shout.’ Mae'r fenter hon yn caniatáu i ddarpar actorion ac aelodau criw gael profiad proffesiynol ym maes ffilm a theledu, gan gynhyrchu sawl ffilm fer ar gyfer BBC Wales ac S4C bob blwyddyn.
13 oed ac yn hŷn
Digwyddiad Cymraeg.
(Iaith Arwyddion Prydain a chymorth clywed)
Ariennir Abertawe Greadigol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac fe'i cyflwynir gan Gyngor Abertawe.