Am

The Gentle Good yw llysenw’r cerddor a’r cyfansoddwr o Gaerdydd, Gareth Bonello. Mae Gareth yn adnabyddus am ei alawon swynol, ei ledrith ar y gitâr a’i drefniadau acwstig hardd. Fel cyn-enillydd o wobrau albwm y flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Gareth eisoes yn gerddor blaenllaw ar y sîn Gymreig. 

Portread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys yw albwm newydd The Gentle Good, Elan. Fe’i hysgrifennwyd yn ystod cymrodoriaeth blwyddyn o hyd ymysg Mynyddoedd Cambria. Mae’r albwm yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y cwm, a gafodd ei foddi ar ddiwedd oes Fictoria i greu cyfres o gronfeydd ar

Nos Wener 30.1.26
+ cefnogaeth gan | Bethan Nia
gyfer dŵr yfed.