Am
Ymunwch â'r artistiaid Jason a Becky am sgwrs y tu ôl i'r llenni sy'n archwilio'r dechnoleg y tu ôl i'w harddangosfa bresennol yn Oriel Elysium.
Byddant yn trafod y systemau sy'n hollbwysig i'r gosodwaith - o sain aml-sianel a 4,800 o oleuadau LED y gellir rheoli pob un yn unigol, i dechnoleg creu testun gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, cyfieithu byw a rhyngweithio ag ymwelwyr mewn amser go iawn. Ymunwch â nhw wrth iddynt drafod y galedwedd, y feddalwedd a'r dewisiadau creadigol a oedd yn rhan o'r gwaith.
Fel artistiaid, roedd Jason a Becky bob amser wedi'u cyfareddu gan y peiriannau cudd y tu ôl i arddangosfeydd, ond prin yw'r cyfleoedd i glywed amdanyn nhw. Fel rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, maent yn cynnig y cyfle hwn i rannu rhywfaint o'r dechnoleg ag unrhyw un sy'n awyddus i ddarganfod sut mae'r cyfan yn gweithio.
Mae Jason a Becky yn artistiaid cydweithredol yn Abertawe. Gan weithio rhwng y digidol a'r ffisegol, a rhwng y gwaith gosod a'r perfformiad byw, mae eu harfer yn ymateb i amodau cymdeithasol-wleidyddol cyfredol gan ddefnyddio ystod o gyfryngau a fformatau profiadol i ganiatáu i gyfranogwyr ymgolli mewn lleoedd amwys y mae modd eu dehongli'n unigol, lle gallant ddod ar draws categorïau, diffiniadau a ffiniau sy'n bodoli eisoes, a'u cwestiynu.
Mae arddangosfa Jason&Becky: Where the Lost Language of the Dead i'w gweld yn Oriel Elysium tan 25 Hydref.
Am ddim. Cadwch le ymlaen llaw.