Am
Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Jaws nos Sul 27 Gorffennaf.
Gwybodaeth am y ffilm: Mae'r ffilm Jaws gan Steven Spielberg, sy’n seiliedig ar y llyfr o'r un enw a gyhoeddwyd ym 1974, yn dathlu ei hanner canmlwyddiant yn 2025.
Felly, mae'n hen bryd i ni wylio'r clasur bytholwyrdd hwn eto. Mae'r ffilm yn dilyn Martin Brody (Roy Scheider), heddwas sy'n cael help eigionegwr, Matt Hooper (Richard Dreyffus), a heliwr siarcod proffesiynol, Quint (Robert Shaw), i hela siarc mawr gwyn sydd wedi bod yn erlid pobl ar y traeth yn Amity Island, tref glan môr yn New England.
12A
Gatiau yn agor yn 7pm. Bydd y ffilmiau'n dechrau tua 8.45pm-9pm gyda'r cyfnos. Ffi archebu o 5% ar bob pryniant tocynnau.