Am
Taith gerdded gyfranogol. Trwy awgrymiadau sy'n benodol i'r safle, byddwn yn trafod cysyniadau Hiraeth a'r Filltir Sgwâr, yn ogystal â syniadau o ddyhead, perthyn, a chartref. Yn ystod y daith gerdded hamddenol, bydd deialogau’n cael eu creu â’r ddinas, yn y grŵp, a chyda'r cyhoedd. Bydd ymyriadau, gwahoddiadau ac ymatebion digymell yn ymddangos ar hyd y llwybr sy’n cael eu creu gan y cerddwyr ac aelodau'r cyhoedd.
Llwybr hygyrch
AM DDIM OND RHAID CAEL TOCYN - Archebwch ymlaen llaw gan fod nifer cyfyngedig o leoedd
OEDRAN: 13+