Am

Mae Jimeoin, sydd wedi ennill clod yn rhyngwladol ym maes comedi fyw, yn dychwelyd gyda noson o gomedi hynod ddoniol fel rhan o'i daith wych newydd, 'Who's Your Man?!'

Efallai eich bod chi'n un o'r cannoedd o filiynau o bobl sydd wedi gwylio'i fideos comedi ar-lein, neu efallai eich bod wedi ei weld yn ymddangos ar y teledu mewn rhaglenni fel 'Live at the Apollo', 'The Royal Variety Performance' neu 'Conan O'Brien'... ond does DIM BYD cystal â gwylio'r meistr jôcs arsylwadol o Iwerddon yn gwneud yr hyn y mae'n ei wneud orau - perfformio'n fyw ar y llwyfan!

Mae synnwyr digrifwch eofn, gonest ac arsylwadol gwych Jimeoin wedi ei helpu i ennill sawl gwobr, ac mae ei apêl eang a'i hiwmor ardderchog yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Mae ein hoff ddigrifwr Gwyddelig sy'n byw yn Awstralia ar frig y rhestr o actau comedi o safon - ac os hoffech fwynhau noson ragorol, rydym yn awgrymu i chi archebu'ch tocynnau’n fuan! Pwy yw'r gorau? Jimeoin, wrth gwrs!

Yn cynnwys actau cefnogi hefyd.