Am

The Live Rockumentary

Dyma'r sioe y mae'r holl selogion wedi bod yn aros amdani....

Gyda John Campbell, y'i hystyrir yn gyffredinol fel un o artistiaid teyrnged gorau'r byd, yn chwarae'r brif ran a chyda'i fand llawn sêr.

Mae John a'i fand yn mynd â ni ar daith gerddorol drwy yrfa fer ond syfrdanol Jim.

The Experience hyd at Band of Gypsies, dewch gyda nhw drwy'r albymau, y perfformiadau enwog mewn gwyliau cerddoriaeth a'r caneuon ysgubol.

Drwy gydol y noswaith, gallwch fwynhau straeon a hanesion nas clywyd o'r blaen gan gyfeillion a chyd-gerddorion agos Jimi ynghyd â chyfweliadau â rhai o brif gitaryddion gorau'r byd wrth iddynt esbonio PAM yr oedd e' MOR bwysig.

O'r gwrandäwr achlysurol i'r selogyn mwyaf brwd, mae hon yn noson na ddylech ei cholli!