Am

Mae Jingle Bell Rock yn gyngerdd Nadolig a fydd yn sicr o'ch llenwi â hwyl yr ŵyl. Cyngerdd cyffrous llawn egni, eich hoff ganeuon Nadolig, lleisiau pwerus a digon o gyffro'r Nadolig.  

Yn dilyn taith lwyddiannus yn UDA lle gwerthwyd pob tocyn, mae'r sioe hon yn cynnwys cast arbennig o berfformwyr y West End a fydd yn dod â chaneuon y Nadolig yn fyw yn ystod noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, dathlu a llawenydd pur. O ganeuon poblogaidd i gyfleoedd hudolus i ganu ar y cyd, dyma'r noson berffaith i deuluoedd, ffrindiau, ac unrhyw un sydd am ddechrau'r ŵyl mewn ffordd arbennig.  

Cynhyrchir y sioe gan Sisco Entertainment, y tîm y tu ôl i Gravity, a enwebwyd am wobr WhatsOnStage, The Best of Frankie Valli gyda Peter Andre, a chyfres o gyngherddau poblogaidd yn y West End. Mae'r cynhyrchiad hwn hefyd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd mewn arenâu ar draws Yr Emiraethau Arabaidd Unedig.