Am

Dyddiad: Dydd Sadwrn 6 Medi
Amser: 6.15pm
Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tocynnau: £15

Jazz wedi'i ail-ddychmygu gyda steil pop Prydeinig a cherddoriaeth yr enaid o Gymru.

Dewch i berfformiad ardderchog sy'n herio genres wrth i Joe Webb, un o bianyddion mwyaf cyffrous y byd jazz ar hyn o bryd, ddod â'i driawd gwefreiddiol i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe.

  • Joe Webb – piano
  • Will Sach - bas dwbl
  • Sam Jesson – drymiau

Gyda'i bresenoldeb hudol ar lwyfan a'i sgiliau byrfyfyrio syfrdanol, mae'n ailddiffinio ystyr bod yn artist jazz cyfoes ac mae wedi teithio'r byd i berfformio yn Ronnie Scott's, Blue Not China, Jazzwoche Burghausen a Gŵyl Jazz Llundain. Symudodd Joe Webb, a aned ac a fagwyd yng Nghastell-nedd, i Lundain yn 2013, lle gwnaeth ennill bri fel person actif a dylanwadol ym myd jazz. Mae wedi'i ganmol fel seren roc y byd jazz ac mae'n cyfuno ceinder jazz traddodiadol gydag ysbryd beiddgar pop Prydeinig y 90au a gweadau cyfoethog ei dreftadaeth Gymreig.

Mae Joe Webb Trio wedi ennill enw da am eu gallu i gyfuno'r hen a'r newydd, gan gyfareddu cynulleidfaoedd gyda phob nodyn. Os ydych yn burydd jazz neu'n anghyfarwydd â'r genre, dyma berfformiad sy'n addo syfrdanu, diddanu ac ysbrydoli pawb.

Archebwch eich tocynnau nawr!

Archebwch ar gyfer pob un o’r 11 sioe â thocynnau am bris untro o £165 gyda’n gostyngiad VIP amleitem - 01792 475715.

Mae pob tocyn yn destun ffi archebu o 5%