Am

Noson o atgofion personol gyda'r canwr/cyfansoddwr  John Power.

Cafodd John Power y brentisiaeth roc a rôl orau erioed - yn chwarae'r gitâr bas yn The La's pan oedd yn 18 oed. Wrth sefydlu Cast yn 1991, bu'n canu, yn cyfansoddi caneuon ac yn chwarae'r gitâr i un o fandiau blaenllaw Britpop - gan sicrhau dwy record blatinwm cyn dychwelyd i'r siartiau yn 2024 gyda'r gân arbennig Love Is The Call. Cynhyrchodd Power rai o'i weithiau gorau yn ystod ei yrfa solo, a thrwy gydol haf 2025, bu Cast yn ymuno ag Oasis ar eu taith o stadia pêl-droed, Nawr, mae'n amser i fyfyrio ar Britpop, y caneuon ysgubol - Alright, Sandstorm, Walkaway, Flying a mwy - yn ystod y sioe agos atoch hon sy'n cynnwys caneuon mwyaf poblogaidd John a straeon gwyllt, doniol a thyner.

Noder, amser cyrraedd 17.45pm i ddeiliaid tocynnau Cwrdd a Chyfarch.