Am
Côr meibion Johns' Boys o Gymru yw un o'r corau meibion Prydeinig mwyaf arobryn erioed. Mae'r côr wedi ennill sawl cystadleuaeth gorawl ac yn 2019, hwn oedd y côr meibion cyntaf o Brydain i ennill gwobr nodedig Pavarotti, 'Choir of the World' yn ystod gŵyl gerdd ryngwladol Llangollen. Mae wedi ymddangos ar y teledu sawl tro, gan gynnwys ar noson olaf y Proms, Britain's Got Talent, y Royal Variety Performance a'r ddrama boblogaidd ar Netflix, 'Stay Close'.
Mae John's Boys yn dod â thro arloesol a modern i'r cysyniad o gôr meibion Cymreig traddodiadol. Gallwch fwynhau fersiynau syfrdanol o Biblical gan Calum Scott a Falling gan Harry Styles, yn ogystal â sawl tro modern i glasuron adnabyddus, fel eu fersiwn syfrdanol o'r emyn Cymreig enwog, Calon Lân. Aeth ei record sengl gyntaf, Biblical yn syth i frig siartiau clasurol iTunes.
Mae galw mawr am y côr ar lwyfannau cyngherddau ac mae wedi perfformio mewn theatrau mawreddog ym Mhrydain Fawr, gan gynnwys theatr Apollo yn Hammersmith, Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, Symphony Hall yn Birmingham a Theatr y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Mae'r côr wedi ennill miliynau o ddilynwyr newydd ers ymddangos ar sioeau byw Britain's Got Talent ac fe'i disgrifiwyd gan Simon Cowell fel côr ardderchog yr oedd yn dwlu arno.