Am

Er mwyn dathlu 20 mlynedd ers rhyddhau ei llyfr a oedd ar frig y siartiau llyfrau ledled y byd, bydd Kate Mosse yn cyffroi cynulleidfaoedd unwaith eto gyda'i sioe un fenyw fythgofiadwy, Labyrinth Live: Unlocking the Secrets of the Labyrinth.

Bydd y sioe hon sy'n cynnwys theatr drawiadol, ymdrochol a dramatig gyda cherddoriaeth, delweddau a ffilm yn ein tywys drwy hanes a dirgelwch gan fynd â ni ar daith wych ar draws tirwedd syfrdanol rhanbarth Languedoc, sef Carcassonne, Toulouse, Chartres a'r Pyreneau.

Wrth iddi ailedrych ar ryfeloedd creulon y 13eg ganrif rhwng y Catholigion a'r Cathariaid, damcaniaethau cynllwynio'r Natsïaid a chwedlau'r Greal heddiw sy'n parhau i gael eu hadrodd am y mynyddoedd chwedlonol lle collodd yr hereticiaid hyn eu bywydau, bydd hi hefyd yn rhannu'r cyfrinachau y tu ôl i'w hysgrifennu. Daw ei chymeriadau'n fyw unwaith eto yng ngoleuni'r syniadau swynol sydd wedi'u hysbrydoli a'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau a'i helpodd i greu'r clasur modern diamser a phoblogaidd hwn.