Am

Perfformiad celf fyw sy'n edrych ar heneiddio fel dathliad a phroblem. 
Gan drafod themâu dyfrllyd, tueddiadau nofio yn y môr ac mewn afonydd, diwrnodau sba modern a stori chwilio am y ffynnon ieuenctid fytholegol, mae'r gwaith yn cynnig gobaith ac egni ieuenctid. 

Dan gyfaredd arferion nofio gwyllt, bedyddio a bod o dan y dŵr, mae'r artist yn defnyddio delweddau ffynhonnau eiconig a'r ffynnon fytholegol fel ffordd o archwilio argyfwng canol oed sydd ar ddod.

Addaswyd y gwaith hwn, a gafodd ei berfformio gyntaf yn lleoliad Carnedd, Caerdydd yn hydref 2024, i anrhydeddu hen ffynnon Sgwâr y Castell, sef un o dirnodau ieuenctid yr artist. 
 

​​​​​​Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025