Am

Kerry Ellis yw brenhines y West End. O My Fair LadyWe Will Rock You, oLes Miserables i Wicked, mae hi wedi perfformio ar lwyfannau'r West End a Broadway gan serennu yn rhai o rolau mwyaf theatr gerdd, yn ogystal ag ennill nifer o wobrau. Mae hi wedi perfformio fel rhan o gast mewn nifer o sioeau gan gynnwys Oliver!Cats, Miss Saigon, Chess, The War of the Worlds ac Anything Goes, ymysg llawer o rai eraill. Mae hi wedi recordio 4 albwm stiwdio ac wedi teithio'r byd fel artist unigol ac yng nghwmni ei ffrind da, Syr Brian May.

Nawr, mae'r seren a gafodd ei magu yn edmygu'r perfformwyr theatr gerdd nodedig Liza Minnelli a Barbra Streisand yn edrych yn ôl ar ei gyrfa ddisglair.  Dyma gyfle unigryw i'w chlywed yn canu caneuon o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y West End a'i chlywed yn adrodd straeon am sut y cafodd hi'r rolau hyn, a'r cyfan mewn awyrgylch clyd fel rhan o'i thaith o gwmpas y DU. Peidiwch â'i cholli.