Am
Cyflwynir gan Ignition
Addaswyd gan Derek Webb o'r nofel wreiddiol yr oedd y comedi Ealing clasurol yn seiliedig arni. Cyfarwyddwyd gan Peter Richards.
Mae Archie Gascoyne Williams yn gryf ei gymhelliad. Daw o deulu mawr ei fri (a chyfoethog iawn), sef y teulu Gascoyne, ar ochr ei fam. Ond gwrthodwyd ei fam gan y teulu oherwydd ei bod wedi priodi â rhywun yn is na'i safle drwy briodi â thrafaeliwr a oedd yn gwerthu dillad isaf menywod. Serch hynny, mae Archie yn darganfod mai ef fydd yn etifeddu'r teitl Iarll Gascoyne (ac arian y teulu) drwy etifeddeg, os yw aelodau ymyrgar eraill y teulu'n marw.
Felly.... mae'n penderfynu etifeddu ffortiwn y teulu drwy lofruddio'r aelodau hynny o'r teulu sydd yn ei ffordd. Ac er bod Archie am ennill y teitl Gascoyne, mae Sibella, chwaer hwyliog a rhywiol ei ffrind gorau, Grahame Hallward, wedi dal ei sylw, yn ogystal ag Edith Gascoyne a morwyn feithrinfa. Dydy bywyd byth yn syml!
Pleidleisiwyd Kind Hearts and Coronets yn rhif 6 ar restr y British Film Institute o ffilmiau Prydeinig gorau'r 20fed ganrif! Addaswyd y fersiwn lwyfan newydd sbon hon gan Derek Webb o'r nofel wreiddiol gan Roy Horniman, y mae'r comedi Ealing clasurol yn seiliedig arni. Roedd y ffilm wreiddiol yn cynnwys Alec Guinness, a wnaeth chwarae rhan pob un o'r chwech o bobl a lofruddiwyd.