Am
Perfformiad egnïol ar ffurf cyngerdd yw KPOP Demon Hunta'z Livesy'n cyfuno dawns wedi'i ysbrydoli gan K-Pop, rhyngweithio gyda chynulleidfa fyw a dawn theatrig. Yn ystod dwy act ddeinamig, bydd y cymeriadau'n diddanu'r gynulleidfa drwy goreograffi syfrdanol, cellwair chwareus, a gemau y gellir ymgolli ynddynt sy'n trawsnewid y gynulleidfa'n rhan o'r sioe ei hun.
Bydd yn cynnwys dawnsiau llawn a dull rhydd a rhai lle ceir rhyngweithio â'r gynulleidfa, a bydd y deyrnged yn darparu cerddoriaeth a phrofiad bythgofiadwy. Bydd yn cynnwys gwisgoedd, sain, goleuadau a threfniannau fel brwydrau, a bydd y cymeriadau'n dod â byd ffantasi'n fyw ar y llwyfan.
Hyd y sioe yw oddeutu 70 munud (ynghyd ag egwyl), a fydd yn cynnal lefelau egni uchel a chadw diddordeb cefnogwyr o bob oedran. Dyma'r cyfuniad perffaith o berfformiad teyrnged, adloniant rhyngweithiol a sioe K-Pop sy'n rhoi profiad go iawn i bawb yn y gynulleidfa.