Am

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Ar ôl absenoldeb o 16 mlynedd, dychwelodd Kroke, y triawd o Wlad Pwyl i’r DU yn 2023 i roi profiad cerddorol byw rhyfeddol i gynulleidfaoedd hen a newydd a arweiniodd at y gynulleidfa’n codi ar ei thraed mewn cymeradwyaeth ar sawl achlysur, gan wneud hynny mor gynnar â’r egwyl.

'What drags me into Kroke’s music so successfully is this spiritual reality they have… it’s honesty and sincerity in their music.' Nigel Kennedy

Gan gyflwyno cymysgedd godidog o gerddoriaeth fodern Bwylaidd, klezmer, jazz cyfoes a cherddoriaeth glasurol siambr, mae celfyddyd Kroke yn herio genres. At hynny, mae’n dal i fod ar ei hanterth ar ôl gyrfa syfrdanol dros 30 mlynedd sydd wedi denu sylw gan artistiaid enwog a chynulleidfaoedd ledled y byd, ac wedi arwain at gydweithio gyda rhai fel Nigel Kennedy, Steven Spielberg a Peter Gabriel.

'Kroke live are a hair-raisingly brilliant, unforgettable experience.' Jon Lusk, BBC Radio 3

Wedi'i ffurfio ym 1992 gan dri o raddedigion yr Academi Gerddoriaeth yn Krakow, mae Kroke (Iddeweg am Kraków) yn dychwelyd i'r DU yn 2025 i roi perfformiad o’r 'goreuon' o'u traciau mwyaf poblogaidd. Disgwyliwch ddylanwadau o fydoedd jazz, cerddoriaeth gyfoes ac ethnig wedi’u trwytho â’u gwaith byrfyfyr syfrdanol eu hunain, y cyfan wedi’i lapio mewn arddull unigryw’r triawd sy’n cyflwyno gwledd gerddorol fythgofiadwy.

'Kroke, a klezmer band from Poland are gems. ….. they move beyond the rumbustious towards an epic sound that’s sometimes histrionic but also deeply moving. To boot, they are the coolest-looking act in town' Womad ar Kroke