Am

Mae'r astudiaeth hon yn archwilio rhanbarth de Cymru fel astudiaeth achos o drawsnewid trefol ôl-ddiwydiannol, wedi'i ddadansoddi drwy dri fframwaith damcaniaethol sy'n cyd-gysylltiedig. Yn gyntaf, mae "strwythur o ymdeimlad" Raymond Williams yn mapio cymhlethdod amserol cymuned y mae ei phresennol yn ddirlawn o weddillion byw ei gorffennol diwydiannol. Yn ail, mae astudiaethau E. P. Thompson o sut caiff dosbarth ei lunio, ei alluogedd a’i brofiad yn taflu goleuni ar yr agweddau creadigol ar sut mae cymuned yn ei chreu ei hun dan amodau adfyd strwythurol. Yn drydydd, mae cysyniad Ludwig Wittgenstein o'r gallu "i barhau" - y gallu i barhau'n ystyrlon yn y byd pan fydd sylfeini sefydledig wedi'u herydu neu eu dinistrio - yn cynnig y meini prawf sy’n sail i wahaniaethu rhwng bywioldeb diwylliannol go iawn a chadwraeth neu gofio hiraethus yn unig. Gyda'i gilydd, mae'r fframweithiau hyn yn creu geirfa ddadansoddol i nodi cymhlethdod na ellir ei symleiddio o ran bywyd diwylliannol ôl-ddiwydiannol. Gan ddefnyddio gwaith maes ethnograffig parhaus, mae'r astudiaeth hon yn canolbwyntio'n ehangach ar Bort Talbot ers cau'r gweithfeydd dur, gan archwilio ystod o safleoedd ac arferion rhyng-gysylltiedig lle mae'r gymuned yn trafod ei phresennol ac yn dychmygu ei dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau megis adfywio'r ganolfan ddinesig, ailwampio Theatr y Dywysoges ac adnewyddu mannau gwyrdd ar hyd afon Afan, ochr yn ochr â mathau llai ffurfiol neu fwy datblygol o weithgarwch cymdeithasol a diwylliannol. Gyda'i gilydd, mae'r sfferau hyn yn ymatebion - yn amrywio mewn ffurf ac uchelgais - i'r colledion economaidd, sefydliadol a dirfodol dwys a gafwyd gan ddad-ddiwydiannu. Bydd y ddarlith yn ystyried sut gall arferion o'r fath gael eu deall fel arwyddion o wrthod, adfywio a gwydnwch: ffyrdd y mae cymuned yn mynnu bod yr hyn sydd wedi cael ei golli neu ei droi’n weddilliol yn bwysig o hyd, bod yr hyn sy'n parhau yn werth ei gynnal, ac efallai y gellid creu mathau newydd o fywyd cymdeithasol a diwylliannol o hyd o adfeilion y gorffennol diwydiannol.

Am y siaradwr...
Mae Black Hawk Hancock yn Athro Gwadd Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddiwylliant, damcaniaeth, a methodoleg ansoddol. Ef yw awdur yr ethnograffeg American Allegory: Lindy Hop and the Racial Imagination (University of Chicago Press). Mae hefyd wedi ysgrifennu cyflwyniadau newydd i ail argraffiadau llyfrau John Fiske, sef Power Plays, Power Works (Routledge) a Media Matters (Routledge). Mae ei erthyglau'n cynnwys damcaniaethwyr amrywiol megis Michel Foucault, Judith Butler, Erving Goffman, Jean Baudrillard, Jaques Derrida a Georg Simmel, ymhlith eraill. Ei lyfr diweddaraf, a ysgrifennwyd ar y cyd â Roberta Garner, yw Change and Disruption: Sociology of the Future (Routledge).

*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg