Am

Ar ôl bron 60 mlynedd o fywyd ar daith, mae Leo Sayer, un o enwogion byd cerddoriaeth, yn dychwelyd i'r DU ar gyfer ei daith olaf o'r DU gyfan o bosib. "Rwy'n dwlu ar berfformio ar gyfer fy nghefnogwyr ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod, ond dyma fydd y tro olaf y bydda i'n trefnu cynifer o ddyddiadau ar draws y wlad. Dydw i ddim yn ymddeol, ond rwy'n lleihau nifer y sioeau byw."

Gyda'i fywgraffiad a chyfres o CDs sy'n rhychwantu ei yrfa yn cael eu rhyddhau eleni, yn ogystal â sioeau ar draws y byd, bydd 2026 yn uchafbwynt arall yng ngyrfa hynod lwyddiannus Leo Sayer.

Mae Leo yn enwog ledled y byd am ei ganeuon poblogaidd fel Thunder In My Heart, Moonlighting, One Man Band, I Can't Stop Loving You, More Than I Can Say, Have You Ever Been in Love, The Show Must Go On, a'r caneuon a gyrhaeddodd frig y siartiau dros yr Atlantig sef When I Need You, ac wrth gwrs, You Make Me Feel Like Dancing.

Yn y perfformiad hwn, mae Leo a'i fand yn dod ag egni, hwyl a'i holl ganeuon poblogaidd i'r llwyfan ar gyfer noson gyffrous na ddylech ei cholli!