Am

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, yn cyflwyno Linder: Danger Came Smiling, arddangosfa gan Hayward Gallery Touring sy’n cynnig trosolwg dadlennol o yrfa 50 mlynedd yr artist eiconig hwn.

Mae detholiad o ffotogyfosodiadau arloesol Linder yn archwilio amrywiaeth lawn ei harfer artistig, gan bwysleisio mympwyon arbrofol a ffeministaidd ei gwaith pryfoclyd.

Wedi’i haddasu o’r cipolwg ôl-weithredol yn Oriel Hayward yn Llundain, mae’r fersiwn deithiol hon yn cyflwyno llwybr artistig cyflawn Linder, o’r gwaith cynnar a ddeilliodd o’i chyfraniad at fyd pync-roc ym Manceinion yn y 1970au i waith newydd nas dangoswyd o’r blaen. Mae ieithwedd weledol unigryw Linder yn cynnwys diffyg parch chwareus ac yn archwilio ein hagweddau newidiol at uchelgeisiau, rhyw, bwyd a ffasiwn.

Daeth Linder i’r amlwg yn wreiddiol yn y 1970au, fel rhan o dirwedd ddeinamig pync-roc a’r gerddoriaeth a’i dilynodd, gan gael cydnabyddiaeth helaeth gyda’i band, Ludus, ac am greu cloriau albymau arloesol. Mae ei ffotogyfosodiad ar gyfer clawr y record sengl ‘Orgasm Addict’ gan Buzzcocks ym 1977 yn dal ymysg delweddau mwyaf symbolaidd pync-roc ym Mhrydain. Hanner canrif yn ddiweddarach, mae Linder yn artist a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n adnabyddus am ei harfer amlweddog.

Mae taith Linder wedi cynnwys archwilio di-baid, gan fentro i feysydd mor amrywiol â ffasiwn, cerddoriaeth, perfformio, persawr, tecstilau a ffilm. Y tu hwnt i egni noeth a brathog pync, mae ei gweledigaeth artistig wedi’i llywio gan gyfoeth o ddylanwadau sy’n cynnwys celf grefyddol, swrrealaeth, cyfriniaeth, pornograffi a thirwedd newidiol y cyfryngau cymdeithasol. Mae synnwyr digrifwch brathog yr artist, sy’n gallu bod yn ysgytwol, yn animeiddio ei gwaith.

Mae Linder wedi defnyddio ffotogyfosodiadau drwy gydol ei gyrfa. Mae’n defnyddio cyllell llawfeddyg yn dreisgar ac yn greadigol i ddyrannu, ail-lunio a thorri mewn modd doniol grib y rhai hynny sy’n cyfleu normau rhywedd a hunaniaethau rhywiol at ddibenion masnach. Gan ddefnyddio delweddau corfforol yn aml, mae Linder yn dinoethi’r ystrydebau trwm sy’n cael eu gosod ar ddau begwn y sbectrwm rhywedd a’r ffordd y mae’r rhain wedi datblygu dros amser. Mewn cyfres drawiadol o ffotograffau, megis SheShe (1981), mae Linder yn mabwysiadu personâu benywaidd dychanol amrywiol i drafod cysyniadau creu eich personoliaeth eich hun, a dimensiynau perfformio hunaniaeth.

Gan gyfleu hanfod gwreiddiol glamor – cyfuniad pwerus o hud a lledrith – mae gwaith Linder yn cyflwyno safbwynt ffeministaidd doniol a brathog. Wrth wraidd ei harfer artistig y mae cysylltiad dwys â natur farddonol protest, lle mae ymholiadau artistig yn cyfuno’n llyfn â meddylfryd radicalaidd.

Meddai Linder, “Mae’r toriadau sy’n deillio o’m llafnau a’m siswrn yn fy rhyddhau bob amser. Mae pob un ohonynt yn adfer egni ar draws y print a’r dudalen. Mae’r delweddau yn fy ngwaith yn aml yn fregus, a hynny’n faterol ac yn gysyniadol. Mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw a mynd â nhw i rywle llawer mwy swrrealaidd.”

Mae’r arddangosfa Linder: Danger Came Smiling wedi’i churadu gan Hayward Gallery Touring.