Am
Mae Lives in Motion: Straeon Mudo o’r 11eg Ganrif hyd Heddiw yn llawn straeon mudo o gasgliadau’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ac Oriel Gelf Glynn Vivian, o’r 11fed ganrif hyd heddiw.
Mae’n arddangosfa fywiog o wrthrychau drwy gyfryngau amrywiol, gan gynnwys paentiadau, cerfluniau, ffotograffau, printiau a gwaith celf digidol. Bydd yr arddangosfa ar agor yn Oriel Gelf Glynn Vivian o 20 Mawrth 2026 tan 28 Mehefin 2026 a bydd yn cynnwys llawer o gelfweithiau nas gwelwyd yng Nghymru o’r blaen.
Mae Lives in Motion yn archwilio profiadau a chyfraniadau pobl sydd wedi symud i Brydain o bedwar ban byd i ymgartrefu dros dro neu’n barhaol yn y DU. Mae’r arddangosfa’n archwilio’r rhesymau amrywiol pam mae pobl yn symud a sut mae gadael cartref a dod o hyd i un newydd mewn lle gwahanol yn creu cyfleoedd a heriau weithiau sy’n effeithio ar ymdeimlad rhywun o hunaniaeth bersonol a pherthyn.
Gan rychwantu bron mil o flynyddoedd o hanes, o Gwilym Goncwerwr i Malala Yousafzai, mae’r arddangosfa wedi’i threfnu’n gronolegol ac mae rhannau sy’n archwilio breniniaethau, enwogrwydd a chomisiynau cyfoes gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol. Er bod y straeon mor unigol â’r bobl yn y portreadau, maent hefyd yn amlygu profiadau bywyd cyffredin ar hyd y canrifoedd.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys penddelw o Mary Seacole, sy’n cael ei harddangos am y tro cyntaf ers ei chaffael gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn 2023, yn ogystal â phortread o’r gantores opera leol Adelina Patti a’r artist alltud Josef Herman o Gasgliad Parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r arddangosfa hon wedi’i churadu gan Octavia Tam, hyfforddai curadurol Art Fund Vivmar, ac wedi’i chynnal gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac amgueddfeydd ac orielau Dinas Nottingham. Mae hyfforddeiaethau curadurol Art Fund Vivmar yn cael eu noddi’n hael gan ymddiriedolaeth Vivmar.
Mae’r arddangosfa wedi’i threfnu gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol fel rhan o’r rhaglen deithiol genedlaethol.
Meddai Elliot King, Aelod y Cabinet dros Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau, “Rydym wrth ein boddau bod Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe yn parhau â’i pherthynas â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, sy’n cyflwyno’r casgliad rhagorol hwn i Abertawe am y tro cyntaf. Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd ymwelwyr i oedi a chyfranogi wrth ddathlu’r unigolion sydd wedi helpu i lunio cymdeithas gyfoethog a chynhwysol drwy eu bywydau a’u cyfraniadau.”
Mae’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, a sefydlwyd ym 1856, yn adrodd stori Prydain drwy bortreadau, gan ddefnyddio celf i ddod â hanes yn fyw ac archwilio bywyd heddiw. O eiconau byd-eang, i arwyr di-glod, mae ein casgliad yn llawn straeon sydd wedi llunio cenedl ac sy’n parhau i wneud hynny. Rydym yn dathlu pŵer portreadau ac yn cynnig cysylltiadau â rhai o artistiaid gorau ac artistiaid newydd mwyaf cyffrous y byd, gan ennyn diddordeb mewn portreadau o bob cyfrwng i gyhoedd amrywiol drwy gadw, cynyddu a rhannu’r casgliad mwyaf o bortreadau yn y byd. www.npg.org.uk
Art Fund yw elusen annibynnol y DU dros gelf, sydd wedi bod yn helpu amgueddfeydd a phobl i rannu celf a diwylliant nodedig am 120 o flynyddoedd. Mae Art Fund yn codi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i helpu amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol y DU. Mae’r elusen yn ariannu celf, gan alluogi amgueddfeydd y DU i brynu a rhannu gwaith cyffrous, cysylltu â’u cymunedau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Mae’n meithrin cynulleidfaoedd drwy ei gerdyn celf cenedlaethol, sy’n agor drysau i ddiwylliant nodedig, ac mae’n tynnu sylw at y sector amgueddfeydd drwy wobr amgueddfeydd fwyaf y byd, sef Art Fund Museum of the Year, a digwyddiadau creadigol sy’n dod ag amgueddfeydd y DU ynghyd. Cynhelir Art Fund gan yr 135,000 o aelodau sy’n prynu’r cerdyn celf cenedlaethol, ynghyd â’r rhoddwyr, yr ymddiriedolaethau a’r sefydliadau sy’n cefnogi’r elusen. Mae’r cerdyn celf cenedlaethol yn darparu mynediad am ddim neu am bris gostyngol i fwy na 400 o amgueddfeydd, orielau a mannau hanesyddol, 50% oddi ar bris arddangosfeydd mawr a chylchgrawn celf chwarterol. www.artfund.org