Am

Rhagolwg: Dydd Gwener 30 Mai 7yh 

Arddangosfa’n parhau tan 12 Gorffennaf. Ar agor Dydd Mercher – Sadwrn 11yb – 7yh 

Alice Banfield | Damian Healy | Caitlin Howe | Laura James–Brownsell | Rachel Kinchin | Aly Lloyd | Sam Lucas | J Pyrite | Naseem Syed | Jo Jo Vagabondi | Stuart Mel Wilson 

Mae Lleisiau o’r Cyrion yn arddangosfa grŵp o artistiaid ac awduron sy’n uniaethu fel niwroamrywiol. Wedi’i ddewis o ganlyniad i alwad agored genedlaethol, mae pob artist yn archwilio ac yn mynegi eu profiadau synhwyraidd, emosiynol, seicolegol neu gorfforol fel pobl niwroamrywiol. 

Mae hon yn arddangosfa sy’n arddangos ac yn dathlu creadigrwydd, dyfnder ac amrywiaeth artistiaid niwroamrywiol trwy ddod â gweithiau ynghyd sy’n herio ffyrdd normadol o weld, meddwl a chreu. 

Mae Lleisiau o’r Cyrion wedi tyfu o brosiect 18 mis o’r enw Cysylltu a Ffynnu, gan weithio gydag amrywiol grwpiau niwroamrywiol ledled Abertawe gan roi’r gefnogaeth a’r sgiliau iddynt archwilio, creu a chydweithio. 

Am yr Artistiaid 

Alice Banfield  

Mae Alice yn artist wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, Cymru. 

“The forest-mind out there transmits only terror, now, and the only message I can send it is terror, because when exposed to it I can feel nothing except terror!” – Ursula K. Le Guin, Vaster Than Empires and More Slow. 

Yn stori fer Ursula K. Le Guin, Vaster Than Empires and More Slow, mae’r goedwig yn drosiad am y meddwl; coedwig sydd ‘heb ei harchwilio, yn ddiddiwedd …’ lle rydym yn ‘mynd ar goll yn y goedwig, bob nos, ar ein pennau ein hunain.’ Gyda’r fframwaith hwn, dw i’n amlygu fy mhrofiadau fy hun o fod yn awtistig mewn cymeriadau chwareus trwy ymarfer amlochrog. 

Trwy ddod â’r cymeriadau hyn yn fyw fel pyrth meddal, talismanaidd i’m coedwig The Greylands/ Y Llwydiroedd, fy nod yw herio’r iaith o amgylch awtistiaeth a’i chynrychiolaeth mewn diwylliant cyfryngau, gan ei fod yn aml yn cael ei bortreadu fel clefyd y mae angen ei wella. 

Aly Lloyd 

Mae Aly Lloyd (g. 1990) yn artist Prydeinig sy’n byw yn Swydd Gaerloyw. Mae ei gwaith yn cyfuno estheteg ddigidol â phaentio traddodiadol, gan gyfuno cywirdeb paentiadol a dylanwad cyfrifiadurol i greu gweithiau sy’n teimlo ar grog rhwng y rhithwir a’r ffisegol. Trwy gyfuno prosesau algorithmig â gwneud marciau â llaw, mae hi’n dod â gweadau digidol i fyd cyffyrddol paent. 

Mae paentiadau Lloyd yn archwilio’r tensiwn rhwng strwythur geometrig a ffurfiau organig, rhydd-lifol, yn aml yn cynnwys ffigurau benywaidd steiliedig wedi’u dal mewn eiliadau rhyfedd, crog, sy’n ennyn dirgelwch ac ymreolaeth. Trwy liw bywiog a ffurfiau symlach, mae hi’n herio canfyddiad gweledol ac yn pylu ffiniau rhwng rhesymeg ac emosiwn, rhith a realiti. 

Yn ganolog i’w gwaith mae archwiliad o niwroamrywiaeth a’r profiad awtistig. Gan ystyried cyfathrebu gweledol fel ei “mamiaith”, mae Lloyd yn defnyddio ei gwaith fel offeryn ar gyfer prosesu hunaniaeth, emosiwn a mewnbwn synhwyraidd. Mae ei dull yn cydbwyso greddf â rheolaeth, ac yn archwilio syniadau o’r hyn sy’n gudd a’r hyn sy’n cael ei ddatgelu. Gan dynnu ar batrwm, strwythur, manylion mân ac amlinelliadau graffig, mae hi’n crefftio cyfansoddiadau sy’n adlewyrchu ei ffordd unigryw o weld a dehongli’r byd. 

Wedi dysgu ei hun, gyda chefndir mewn seicoleg, ffasiwn a gwyddor data, mae ei llwybr rhyngddisgyblaethol yn llywio iaith weledol unigryw wedi’i llunio gan feddwl dadansoddol a mewnwelediad naratif. Mae Lloyd yn gweithio o’i stiwdio agored yn Painswick, lle gwahoddir ymwelwyr i weld ei gwaith ac ymgysylltu â’i harfer sy’n esblygu. Mae ei gwaith wedi’i arddangos yn genedlaethol a’i gasglu’n rhyngwladol. 

Caitlin Howe 

Mae Caitlin Howe (nhw) yn artist niwroamrywiol, cwiar, o Gymru sy’n byw yn Llundain ond sydd hefyd yn gweithio ledled Cymru. 

‘Dw i’n ddawnsiwr cyfoes proffesiynol sydd hefyd yn gweithio gyda thecstilau a chelf weledol. Ar hyn o bryd mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar greu darnau gweadog sy’n rhyngweithiol a gall y gynulleidfa eu cyffwrdd, gan greu symudiad yn naturiol. 

Dw i’n ymwneud â chreu mannau hygyrch, cynhwysol ac wedi darganfod mai un ffordd o ddechrau hyn yw trwy adeiladu darnau tecstilau. Yn bersonol, dw i’n or-sensitif i lawer o deimladau gan gynnwys cyffwrdd, felly roeddwn i eisiau mynegi hyn trwy fy narn a darparu diddordeb gweledol a chyffyrddol. 

Mae fy narn yn ‘guddfan’ synhwyraidd, pabell glytwaith gyda darnau tecstilau y tu mewn. Dw i’n gweld bod dŵr, yn enwedig y môr, yn ysgogol iawn yn weledol. Roeddwn i eisiau ail-greu’r teimlad hwn trwy chwarae gyda gweadau a phatrymau sy’n edrych neu’n teimlo fel dŵr. Dw i’n edrych i greu profiadau cyffyrddol gwahanol fel y gallwch chi ymgolli’n wirioneddol yn y gwaith celf. 

Daeth y syniad ar gyfer y darn hwn o fy mhrofiad fel dawnsiwr sy’n dylanwadu ar yr awydd am gelf ryngweithiol a ffocws ar y synhwyrau. Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd mae pobl yn rhyngweithio â’r gelf, a byddwn i wrth fy modd yn gweld y coreograffi sy’n deillio o ryngweithiadau rhwng pobl a ffabrig wrth iddyn nhw symud yn ac o amgylch y darn a’r darn yn symud gyda nhw’. 

Damian Healy 

Mae Damian Healy yn awdur ac artist synesthetig o Dde Cymru y mae ei waith yn archwilio canfyddiad, cof, metaffiseg, a therfynau realiti ac iaith a rennir. Gan dynnu o’i brofiad o synesthesia, mae ei ymarfer yn ymgysylltu â goblygiadau ontolegol ac athronyddol canfyddiad newidiedig — gan honni nad gwyriadau yw dulliau niwroamrywiol o brofi, ond ffyrddiau amgen ac yr un mor ddilys o wybod. Mae ei waith yn herio’r dybiaeth o realiti unigol, gwrthrychol, gan awgrymu yn lle hynny fod gwirionedd yn dod i’r amlwg trwy luosogrwydd eang. 

Mae ei osodiad E.S.P: Extra Sensory Perceptions yn ceisio rendro un o’r ffurfiau synesthetig y mae’n eu profi’n uniongyrchol: synesthesia arogl-lliw — ffurf lle mae arogleuon yn achosi siapiau bywiog, animeiddiedig sy’n dod i’r amlwg yn y gofod. Nid dehongliadau esthetig yw’r rhithweledigaethau yn yr arddangosfa hon, ond efelychiadau o realiti canfyddiadol lle mae arogl yn y bôn yn liwiedig, dimensiynol, a geometrig. 

Ar hyn o bryd mae Damian yn astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n archwilio ffurfiau synhwyraidd-gyfoethog, cysyniadol a hybrid. 

J Pyrite 

Mae J Pyrite (unrhyw/pob rhagenw) yn artist amlddisgyblaethol sy’n byw yn Southampton. Mae ganddyn nhw angerdd dros haniaethu, ymroddiad gydol oes i farddoniaeth, ag obsesiwn efo baent acrylig. Eu hoff themâu i’w harchwilio yw trawma ac adferiad, mytholegeiddio profiadau byw, a phatrymau atseiniol mewn ymwybyddiaeth unigol a chyfunol. 

Mae J yn awtistig gydag ADHD a salwch meddwl hirdymor, ac maen nhw’n credu bod yr hunaniaethau hyn yn amhosibl i’w gwahanu oddi wrth eu bywyd, neu oddi wrth eu celf. Mae creadigrwydd, yn debyg iawn i niwroamrywiaeth, yn rhywbeth sy’n diffinio J yn llwyr ond nid yn unig – ac felly maen nhw wedi uno eu harferion creadigol i gyfryngau cymysg. Mae barddoniaeth yn ategu’r celfyddyd weledol, ac i’r gwrthwyneb – maen nhw, fel mae’r teitl yn ei roi, yn anwahanadwy. 

Yn hytrach na chanolbwyntio ar agwedd unigol o’r profiad niwroamrywiol, mae J wedi ceisio crynhoi’r amrywiaeth o emosiynau maen nhw’n eu cysylltu â chraidd pwy ydyn nhw. Yn eclectig a bron yn seicedelig, mae “Inseparable” yn gyfosodiad o gyflyrau paradocsaidd sy’n cydfodoli o reidrwydd ym meddwl J. Ni allant siarad dros bob llais, ond gallant wneud eu llais eu hunain yn uchel ac yn glir, ac yn frys gyda’r angenrheidrwydd bod yn rhaid i bob person niwroamrywiol gael ei weld a’i ddeall. 

Ar ôl graddio o Brifysgol Southampton gyda BSc mewn Mathemateg yn 2023, mae J wedi arddangos celfyddyd gweledol yn God’s House Tower, Oriel Gelf Dinas Southampton, ZEST Arts Collective, a Guildhall Square. Maent hefyd wedi ysgrifennu a hunan-gyhoeddi llyfr o’r holl farddoniaeth a wnaethant o 2021 hyd at ddiwedd 2023. Enw’r llyfr yw “The Lizard’s Dance”, ac mae’n ddawns herfeiddiol yn wyneb anhwylderau’r awdur, ond hefyd i ddathlu’r bywyd lliwgar a gweadog y maent yn ei arwain. 

Jo Jo Vagabondi 

Rhedodd Jo Munton o siambr adlais y stiwdio cerflunio a myllni yr oriel gyffredin i’r stryd. Ac ni ddychwelodd byth. Tan nawr. 

Rhyw ugain mlynedd yn ôl cymerodd Jo ei gradd mewn cerflunio ac ysgrifennu creadigol yng Nghaerfaddon, a’i gallu i greu mewn tri dimensiwn i mewn i’r gelfyddyd animeiddiedig sef pypedwaith. Dechreuodd berfformio yn y strydoedd ac mewn gwyliau cyn symud i’r llwyfan. Sylweddolodd yn fuan (ar ôl ychydig o wyliau rhyngwladol yn Sbaen, Croatia a Ffrainc) nad oedd llawer yn digwydd mewn pypedwaith yn y DU ar y pryd. Felly aeth i Seville, yna Barcelona i weithio i gwmnïau Theatr mewn Addysg (El Buhu, cynyrchiadau IPA) lle parhaodd i wneud ei gwaith ei hun yn ogystal â theithio gyda chwmnïau eraill:- Los Kaos, taith Ewropeaidd “the tribe”/ Clogless Lobster, taith “a key in the sea” yn Rwsia a Siberia, Struts a frets, taith cestyll Cymru “y Mabinogi”. 

Darganfu sut i adeiladu’n fawr, gan arbenigo mewn pypedwaith anferth, yn dawnslunio a rhedeg timau mawr ar gyfer: Festive Road, Walk the Plank, Canolfan Mileniwm Cymru. 

Mae Jo wrth ei bodd â gorymdeithiau, nid yn angenrheidiol fel wylwyr. Mae hi wrth ei bodd â hanfod defodol symud trwy’r dirwedd gan greu gorymdeithiau adrodd straeon – golygfa mawreddog ochr yn ochr ag agosatrwydd stori. Comisiynodd CADW ei thîm i greu’r stori Twrch Trwyth yng Ngŵyl Lenyddiaeth Dinefwr. 

Mae hi hefyd wedi cael ei chomisiynu gan Wateraid, i greu sioe am ddiferyn o ddŵr, gan gyngor sir Powys i greu am reoli gwastraff, gan CADW i greu sioe fel y storiwr preswyl yng nghloddfa archaeolegol Bryn Celli Ddu a theithio Applause i greu sioe am ba mor werthfawr yw ein ceirios a’n perllannau. 

Mae hi hefyd yn ystyried ei hun yn dywysydd teithiau i anturiaethau cyfunol creadigol. Mae hi wedi creu llawer o weithdai ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, canolfan dechnoleg amgen cyngor sir Newtown – Earth art, This is Corby, The place, Newport, Love Oswestry

Mae hi’n ddysgwr Cymraeg ymroddedig a pherfformiodd Popeth yn Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

Yn yr arddangosfa hon bydd hi’n archwilio Niwroamrywiaeth trwy iaith y corff, syniadau am fod mewn rheolaeth a chwestiynau ynghylch pwy sy’n tynnu’ch llinynnau. 

Laura James-Brownsell 

‘Ar ôl cael fy diagnosis o awtistiaeth, graddiais o’r Brifysgol Drindod Dewi Sant gydag MArts mewn Ysgrifennu Creadigol. Fel aelod o ASDES, sefydliad sy’n ymroddedig i gefnogi a grymuso unigolion awtistig, rwyf wedi dod yn angerddol am ddefnyddio fy sgiliau fel person creadigol i gysylltu â phobl awtistig a’u cynghreiriaid am ein profiadau a’u haddysgu. 

Dechreuais ysgrifennu fy ngherdd ‘Perspectives’, ar ôl gwylio ‘Inside Our Autistic Minds’ a gyflwynwyd gan Chris Packham. Dechreuodd y gerdd yn wreiddiol fel ffordd i mi ddisgrifio fy mhrofiadau fel person awtistig. Fodd bynnag, ar ôl gwylio ‘A Kind Of Spark‘ gan Elle McNicoll a darllen y nofel y cafodd y gyfres ei haddasu ohoni, ail-ddrafftiais y gerdd, wedi’i thanio gan ddicter at y safbwyntiau a fynegwyd gan rai o’r cymeriadau, yn enwedig, fel rhywun sydd wedi profi galluogrwydd nawddoglyd ers plentyndod, y syniad nad yw pobl awtistig yn gyffredinol yn gallu byw bywydau annibynnol a boddhaus. 

Creais recordiad sain o fy ngherdd i bwysleisio mai fy ngeiriau i yw’r rhain, gan ddisgrifio fy mhrofiadau ac annog pobl nad ydynt yn awtistig i gydnabod ac adolygu unrhyw farn niweidiol sydd ganddynt am bobl awtistig. Gwnaeth fy nam ar leferydd hyn yn anodd ond fel person aml-anabledd, rwy’n credu bod hyn yn ychwanegu haen ychwanegol at y gerdd. Jyst achos efallai fod gan berson awtistig anabledd/anableddau eraill sy’n ei gwneud hi’n anoddach iddynt gyfathrebu, neu achos eu bod yn cael trafferth cyfathrebu mewn ffyrdd y byddai rhywun niwrotypig yn eu disgwyl, nid yw hynny’n golygu nad ydynt yn werth gwrando arnynt. 

Dewiswyd lliwiau fy arddangosfa farddoniaeth am eu hystyr o fewn y gymuned awtistig. Aur yw lliw ein balchder ynom ein hunain a’n diagnosis tra bod coch yn lliw’r angerdd a’r cariad yr ydym yn gallu eu dangos.’ 

Daeth Laura yn guradur ar gyfer yr arddangosfa hon trwy bartneriaeth waith agos ASDES ag Oriel Elysium. 

‘Roeddwn i eisiau creu agoriad i bobl niwroamrywiol arddangos gwaith a oedd yn canolbwyntio ar eu niwroamrywiolrwydd/au yn y gobaith y bydd hyn yn arwain at fwy o gyfleoedd i ni’. 

Naseem Syed 

Mae Naseem Syed yn artist amlddisgyblaethol niwroamrywiol o dras Gymreig-Persiaidd, crefftwr, a chyfarwyddwr Ziba Creative. Wedi’i wreiddio yn ei threftadaeth gymysg, mae ymarfer synhwyraidd, cyffyrddol Naz yn cynnwys gosodiad, gweithdai a digwyddiadau Azadi—mewn undod â’r chwyldro Menywod, Bywyd, Rhyddid a Pom Pom People, mudiad Caredigrwydd Radical, gan ledaenu llawenydd a hiraeth. Mae ei gwaith yn plethu edafedd pobl, lleoedd a straeon ynghyd, gan greu clytwaith o gymuned. 

‘Ar gyfer yr arddangosfa hon, byddaf yn cyflwyno Den of Dreams, gosodiad tecstilau cymysg sy’n adlewyrchu fy mhrofiad byw gyda niwroamrywiaeth. Wedi cael diagnosis hwyr o ADHD yn 43 oed, rydw i wedi llywio galar, cywilydd a hunanddarganfyddiad. Daeth hynny gyda’r sylweddoliad o ba mor anodd yw a pha mor anodd oedd pethau bob dydd i mi, yn enwedig tyfu i fyny. Roeddwn i eisiau dweud wrth fy mhlentyn mewnol yr holl bethau yr oedd angen i mi eu clywed. ‘Y tu ôl i bob menyw sy’n cael diagnosis hwyr mae merch fach a oedd yn gwybod nad oedd y byd hwn erioed wedi’i greu ar ei chyfer hi, ond na allai byth esbonio pam.’ 

Wedi’i ysbrydoli gan Hafez, “Mae’r geiriau rydyn ni’n eu llefaru yn dod yn dŷ rydyn ni’n byw ynddo,” mae’r cuddfan yn symboleiddio egni cadarnhaol, hiraeth a chwarae. Gan dynnu ar atgofion plentyndod o’r cuddfannau a adeiladodd fy chwaer a minnau yng nghartref fy nhaid, gan ail-greu lle o ddiogelwch, dychymyg a pherthyn. 

Wedi’i wneud o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu gan gynnwys; fy hen ddillad, blodau pom pom, cadarnhadau gleiniog, rhubanau a blancedi. Wrth galon y guddfan mae ryg Persiaidd fy nhaid Miguel, wedi’i amgylchynu gan olau disglair a deunyddiau adlewyrchol. Mae blanced fach wedi’i brodio yn sibrwd, “Rydych Chi’n Perthyn Yma.” 

Mae ein geiriau’n llunio sylfeini ein byd mewnol a’r egni rydyn ni’n ei daflunio. Fy nod yw dathlu’r llewyrch o olau ynof fi, gan gofleidio fy ngwerth a’m perthyn. Dw i’n fwy na label neu anabledd cudd—dw i’n dewis cofleidio’r rhannau hyn ohonof fy hun, nid eu cuddio. Dw i’n rhoi clytwaith at ei gilydd o bwy ydw i, yn pwyso at hunanofal radical, ac yn creu fy noddfa fy hun. 

Comisiynwyd y darn hwn gan Gelfyddydau Anabledd Cymru. 

Rachel Kinchin 

Lliw. Gwead. Simsanrwydd. Ffiniau aneglur. Dagrau sbeislyd. Llawenydd. Chwarae. Poen cronig. Iechyd ymennydd-coluddyn. Gorsymudedd. Cleisiau. Cwympiadau. Dyspracsia. Syrthio i dwll gorffocws. Cysylltiadau coll. Pethau heb eu gorffen. Bag mawr o wifrau wedi’u clymu. Gwrthrychau wedi’u camleoli. Golau neon yn grwnan, sïon na fydd yn diffodd ar ôl iddi nosi… 

Ar ôl 20+ mlynedd yn cefnogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol, mae Rachel bellach yn archwilio ei hymarfer celfyddydol ei hun sy’n dod i’r amlwg yn dilyn blynyddoedd o imposter syndrome methiant ôl-TGAU. Roedd bloc creadigol a lludded yn gymdeithion cyson. Teimlai ei hegni artistig yn gaeth o dan ddisgwyliadau cymdeithasol a normau niwrotypaidd. Yn ystod ei MA mewn Ymarfer Celfyddydau: Celfyddydau, Iechyd a Llesiant—ac ar ôl diagnosis ADHD yn 44 oed—dechreuodd arbrofi gyda chwarae lliw, arlunio, zines, collage, print, cerflunio, pypedwaith, darlunio digidol, gosod a chyd-greu. 

Mae defod creadigol, cysylltiad, lles a chwarae bellach yn ganolog i’w hymarfer. Mae ailgysylltu â’i hymennydd artistig wedi bod yn llawen ac yn heriol—gan ddatgelu bregusrwydd a dadwneud naratifau sydd wedi’u hymgorffori ynghylch cynhyrchiant a gwerth. 

Mae ei gwaith haniaethol yn chwarae gyda motiffau: dwylo’n jyglo, aelodau dyspracsig yn rheoli nifer o syniadau, bronnau cam, coluddion gweladwy (helo IBS), llwybrau niwral cymhleth, dagrau sbeislyd o lawenydd a phoen. Mae’r rhain yn drosiadau ar gyfer emosiynau cymhleth a phrofiadau corfforedig. Mae harneisio ei gorffocws a chaniatáu iddi hi ei hun syrthio’n llawn i syniadau yn helpu i reoli pryder ac yn tanio lles. 

Mae Rachel wedi arddangos yng Nghaerdydd ac Indonesia, yn cynnal sesiynau lles creadigol, ac mae’n Brif Artist Preswyl gyda PWSH a Neurospicy Play Dates yn Hypha Studios, Caerdydd. 

Mae hi hefyd yn gweithio’n llawrydd fel Ymgynghorydd Cynhwysiant, Ymarferydd, gweithiwr Cymorth Mynediad, ac mae’n Rheolwr Datblygu Cynulleidfa rhan-amser yn Chapter. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig PWSH. Mae’r rolau hyn yn bwydo i’w byd creadigol, gan ei seilio mewn gofal, mynediad a chymuned. 

Ar gyfer Lleisiau o’r Cyrion, mae hi wedi archwilio ymhellach waith 3D chwareus, gweadog, anhrefnus sy’n dathlu llawenydd, tensiwn a gwrthddywediadau cael eich gwifrog yn wahanol.

Sam Lucas 

Mae Sam Lucas yn artist o Brydain, ac yn ymchwilydd PhD a ariennir yn llawn gan Gonsortiwm Northern Bridge ym Mhrifysgol Sunderland mewn serameg a lles gan ganolbwyntio ar Niwroamrywiaeth ac ymwybyddiaeth o’r corff. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol gydag Orielau Cyfoes ac roedd uchafbwyntiau yn arddangos yn Art Genève 2020 gydag Oriel Gyfoes Taste ac AWARD, y brif arddangosfa yn Biennial Serameg Prydain 2019. 

Mae Sam yn gerflunydd serameg sy’n creu ffurfiau cyfoes amwys, ffigurol. Maent yn ddarnau sgwrsio gydag islais tywyll, doniol ac yn disgrifio sut nid yn unig yw dadleoli yn ddaearyddol, ond sut y gall fod o fewn croen rhywun. Mae hi’n cymryd rhywfaint o ysbrydoliaeth o’i phrofiad byw ei hun a hefyd o arsylwadau eraill. Mae rhinweddau therapiwtig a mynegiannol y clai yn ei helpu i archwilio a mynegi teimladau o anghysur cymdeithasol a dadleoli. 

Nid yw hi’n gwneud pethau tlws, maent yn ddarnau sgwrsio sy’n archwilio ansicrwydd a bregusrwydd a phwysau bod. Mae hi’n annog y gwyliwr i fod yn chwilfrydig a chwestiynu eu perthynas eu hunain â’u corff a sut y gall eraill fod yn wahanol iddynt, neu’r un peth. 

Mae ymarfer creadigol Sam erioed wedi troi o amgylch y berthynas rhwng yr hunan a’r byd trwy lens y corff trwy greu ffurfiau amwys, ffigurol. 

 

Stuart Mel Wilson 

Mae Stuart Mel Wilson yn artist cyfoes Prydeinig a aned yn Gateshead. Wedi’i leoli yn Newcastle upon Tyne. Mae’n adnabyddus am ei luniadau ar raddfa fawr a’i osodiadau trochol sy’n archwilio themâu canfyddiad, iaith, a’r cyflwr dynol. Yn raddedig o Goldsmiths, Prifysgol Llundain, mae gwaith Wilson yn cyfuno gwneud marciau traddodiadol â gwrthrychau a geir, gan greu amgylcheddau chwareus ond sy’n ysgogi meddwl. Mae ei osodiadau yn aml yn ymgysylltu â syniadau athronyddol a phrofiadau personol, gan gynnwys ei ddyslecsia, i herio cyfathrebu a dehongli confensiynol. Mae Wilson wedi arddangos yn eang ledled y DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol.