Am
Mae Tafod Arian yn gynhyrchiad aml-haenog sy’n cyfuno ffilm ac archif sain gweledol a chlywedol mewn cywaith gerddorol unigryw. Talai Lleuwen Steffan deyrnged i leisiau’r gorffennol, gan drwytho eu melodïau a’u geiriau oesol gyda threfniannau cyfoes a dehongliadau o’r galon. Mae’r cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd newydd i recordiadau archif, gan sicrhau bod yr emynau llafar gwlad, a gafodd eu anwylo gan y genedl, yn hawlio eu lle ar lwyfannau Cymru heddiw.
Mae’r prosiect hwn yn gomisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.