Am

Mae’r nosweithiau’n tywyllu ond mae’r amgueddfa’n gynnes ac yn glyd. Dewch i ymweld â ni a mwynhau hwyl yr ŵyl!

Codwch daflen ar gyfer y llwybr a dechreuwch chwilio am eitemau hanesyddol y gwyliau sy’n cael eu harddangos o gwmpas yr amgueddfa. Gallwch ennill trît arbennig os byddwch yn dod o hyd i bob un ohonynt!