Am

Ymunwch â ni rhwng 15 Chwefror a 2 Mawrth am Lwybr Tourmaline and the Museum of Marvels, a drefnir gan Kids in Museums a Little Tiger. Mae'r llwybr cenedlaethol ar gyfer teuluoedd wedi'i ysbrydoli gan Tourmaline and the Museum of Marvels gan Ruth Lauren - cyfres ddifyr a ffeministaidd ar gyfer plant 9-12 oed.

 

Mae pwerau hudol newydd a rhyfedd Tourmaline yn achosi helynt ac mae hi'n ysu i wybod sut i'w rheoli. Pan mae'n derbyn cerdyn post dirgel sy'n addo atebion iddi, mae'n mynd ar antur fythgofiadwy i'r 'Museum of Marvels'.

 

Cymerwch daflen weithgareddau am ddim i gymryd rhan yng Nghanolfan Dylan Thomas. Chwiliwch am Tourmaline, ei ffrindiau ac amrywiaeth o eitemau hudol sy'n cuddio yn yr amgueddfa. Cwblhewch y llwybr a byddwch yn derbyn sticer Tourmaline am ddim!

Gall plant hefyd ddylunio eu 'Museum of Marvels' eu hunain. Bydd y dyluniad gorau'n ennill casgliad o lyfrau Tourmaline wedi'u llofnodi a thocyn 'National Art Pass (Plus Kids)' diolch i'r Gronfa Gelf, sy'n rhoi mynediad i un oedolyn a phlant dan 16 oed i gannoedd o amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ar draws y DU, yn ogystal â 50% oddi ar arddangosfeydd mawr!

 

Amodau a thelerau llawn y gystadleuaeth: https://bit.ly/tourmalinetrail

 

Dydd Mercher - dydd Sul, 10am - 4.30pm