Am

Dwlu ar Dylwyth Teg 
Gwisgwch i fyny yn eich gwisg tylwyth teg orau ac ewch ar antur 30 munud. Crwydrwch drwy'r castell cyfrinachol, sleifiwch heibio'r coblynnod direidus ac archwiliwch y goedwig hudolus i chwilio am ein tylwyth teg coll. Ar hyd y llwybr, byddwch yn cwrdd â thylwyth teg cyfeillgar neu goblynnod gwirion sy'n barod i rannu straeon a dangos ble maen nhw'n byw. 

Sylwer: Mae angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ac mae'n rhaid eu harchebu ar-lein ymlaen llaw. Cyfyngir cyfanswm grwpiau i 16 fesul taith. Cynhelir teithiau bob 15 munud rhwng 11.15am a 12.45pm, a rhwng 1.45pm a 3.00pm.

Mae tocynnau'n costio £6 i oedolion a £4 i blant, y mae'n rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn.

Amserau'r digwyddiad: 11.00am – 4.00pm (bydd y castell ar agor tan 5pm)

Prynu Tocynnau