Am
Bydd llwyfan Orchard Street ar agor o 2pm i 8pm ddydd Sadwrn 11 Hydref ar gyfer Penwythnos Celfyddydau Abertawe.
Bydd llwyfan Orchard Street yn cyflwyno rhestr wych ac amrywiol o fandiau ac artistiaid o Gymru.
Gweler y rhaglen isod i gael rhagor o wybodaeth:
Bydd llwyfan Orchard Street yn cyflwyno rhestr arbennig o gerddorion o Gymru yn ystod Penwythnos Celfyddydau Abertawe.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim.
14:00 – 14:45 - Buttonsville:
Mae Buttonsville wedi bod yn chwarae mewn lleoliadau cerddoriaeth yn Abertawe ers mwy nag 20 mlynedd. Mae'r band yn cynnwys rhestr o gerddorion lleol o fri sy'n curadu eu set yn ofalus i gyflwyno Americana, R&B a jazz – ymysg llawer o bethau eraill!
15:00 - 15:45 - KIZZY CRAWFORD:
Mae Kizzy Crawford yn canu, yn cyfansoddi, yn cynhyrchu ac yn chwarae sawl offeryn, gan gyfuno canu'r enaid, canu gwerin, jazz a ffync mewn modd dynamig i greu sain sy'n unigryw iddi hi. Mae ei cherddoriaeth ddwyieithog a mentrus yn adrodd straeon emosiynol ac yn cyfleu ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth.
16:00 - 16:45 - HALF HAPPY:
Mae Half Happy yn rhan o fyd cerddoriaeth ffyniannus Caerdydd. Mae'r grŵp pedwar aelod wedi meistroli amrywiaeth o arddulliau cerddorol ond heb gadw at yr un arddull am gyfnod rhy hir. Mae'r grŵp hwn yn cyfuno dylanwadau mewn modd grymus i greu alawon ac adrodd straeon diddorol. Gellir clywed arsylwadau gonest yng ngeiriau’r caneuon, ynghyd â chyfeiliant drymiau tynn. Mae seiniau'r bas a'r gitâr yn creu effaith sy’n llwyddo i fod yn drwm ac yn hyfryd.
17:00 - 17:45 - NOOKEE:
Arweinir y grŵp hwn o Gymru gan efeilliaid unwy sy’n creu seiniau unigryw gyda’u brodyr newydd.
Mae eu caneuon yn cynnwys cyfuniad o gerddoriaeth arbrofol swynol, rhythmau ffync a harmonïau barddol nefolaidd.
Cymharwyd perfformiadau byw arloesol y grŵp â sioeau Frank Zappa, Pink Floyd ac Earth Wind & Fire, ac maent yn wledd i'r llygaid hefyd.
18:00 - 18:45 - CITIES:
Dyma grŵp offerynnol roc amgen/electronig â phedwar aelod o Abertawe, sydd wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd gyda cherddoriaeth electronig annibynnol amrywiol ers rhyddhau'r albwm ‘Manning Alaska’ yn 2015. Mae sain Cities yn cyfuno dylanwadau o arddulliau cerddorol amrywiol er mwyn portreadu awyrgylch cymhleth.
19:15 - 20:00 - ALEIGHCIA SCOTT:
Mae Aleighcia Scott yn un o’r sêr mwyaf ym myd reggae, gan feddu ar lais pwerus ond tyner a'r gallu i feddiannu cân mewn modd sy'n adleisio cantorion cenhedlaeth sefydlu Jamaica. Mae gan Aleighcia fam o Gymru a thad o Jamaica ac mae wedi ymgorffori angerdd a dawn y ddwy genedl, gan ennill canmoliaeth ryngwladol a disgleirio mewn stiwdios ac ar lwyfannau ledled y byd.