Am
Ymunwch â Logan McKillop a Caleb Tomlinson, dau ganwr-gyfansoddwr o ogledd Canada, ar gyfer eu perfformiad yn Elysium.
Mae Logan McKillop yn ganwr-gyfansoddwr gwerin a gwreiddiau ac yn storïwr o beithiau Canada, sydd bellach yn byw yn Whitehorse, Yukon. Mae'n grefftwr geiriau ac yn gitarydd dawnus, ac mae pob cân yn wahoddiad i brofi’r gorau o'r ddau fyd. Roedd McKillop yn drwbadŵr amser llawn o 2015 i 2020 a deithiodd yn helaeth i hyrwyddo'i ddau albwm hyd llawn, sef Prairie Sky ac Anchorless.
Mae wedi teithio degau o filoedd o gilomedrau wrth berfformio ar draws Canada, Ewrop a'r DU. Mae e' unwaith eto ar daith i gefnogi ei albwm hyd llawn newydd, Prisoner of the Highway, y disgwylir iddo gael ei ryddhau yn haf 2026, gyda dyddiadau teithio ar draws Canada, y DU ac Iwerddon.
Mae Caleb Tomlinson yn perfformio cerddoriaeth Americana a gwreiddiau wedi'i chyfansoddi'n gelfydd.
Gyda chaneuon telynegol sydd wedi'u hysbrydoli gan ei gynefin, mae ei berfformiadau cyfareddol a'i ddawn adrodd straeon yn cludo'r gynulleidfa i dirweddau a thymhorau gogledd a gorllewin Canada, gan greu sioe fyw fythgofiadwy.
Rhyddhaodd ei EP cyntaf, Solstice, yn 2024, ac mae wedi bod yn perfformio ledled gorllewin Canada ers hynny, gan gynnwys perfformiadau yng ngŵyl ymylol Edmonton, gŵyl gelfyddydau a cherddoriaeth Atlin a Breakout West.
Gyda'i gilydd, mae McKillop a Tomlinson yn addo noson o allu cerddorol tra datblygedig ac adrodd straeon meistrolgar, ar gyfer noson na fyddwch am ei cholli.
Ariannwyd yr elfennau marchnata ar gyfer y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU