Am
Camwch yn ôl i oes llwch disglair a dawnsio - mae Lost in Musicyn dychwelyd gyda sioe newydd sbon ac egnïol sy'n fwy beiddgar ac yn fwy llachar nag erioed!
Ymunwch â ni am noson ysblennydd o anthemau disgo di-baid wrth i'n band byw syfrdanol, ein cantorion pwerus a'n cynhyrchiad bywiog adfywio cyffro'r 70au. Teimlwch y wefr wrth i ni ailfeddiannu'r llawr dawnsio i gyfeiliant caneuon eiconig gan Donna Summer, Gloria Gaynor, Chic, Sister Sledge ac Earth, Wind & Fire, ymysg enwogion eraill.
Gwisgwch eich secwinau er mwyn ymuno mewn dathliad digyffelyb o oer aur disgo. O lawenydd pur "I Will Survive" i egni gorfoleddus "Le Freak" a "Boogie Wonderland", mae pob eiliad yn dwyn i gof ymdeimlad o bleser pur.
Lost in Music yw'r dathliad gorau posib o ddisgo, felly dewch i ymgolli yn yr hwyl.