Am

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i Lucy Beaumont. Collodd £79,000 i gystadleuydd ar raglen The Wheel, anghofiodd adolygu ar gyfer Mastermind, a chadarnhaodd yn ei bod hi'n gyffredinol ofnadwy mewn sioeau cwis.

Felly, mae hi'n cadw at yr hyn y mae'n ei wneud orau - mae hi'n mynd ar daith unwaith eto gyda sioe newydd sbon.

Yn dilyn llwyddiant ei thaith gyntaf yn y DU lle gwerthwyd pob tocyn, mae Lucy'n dychwelyd gydaBad at Quiz Shows, Good with Weirdos, noson sy'n llawn anhrefn, tryblith a straeon swrrealaidd yng nghwmni un o gomedïwyr mwyaf poblogaidd y DU.

Gallwch ddisgwyl straeon am ymguddio ar ôlThe Celebrity Traitors, creu dilledyn mewn steil buwch ar The Great British Sewing Bee, a cheisio byw bywyd fel rhywun nad yw erioed wedi teimlo'n 'normal'.

P'un a oeddech yn dwlu arni ar Taskmaster, yn ei hadnabod o'i sioe gomedi arobryn, neu'n gwerthfawrogi rhywun sy'n troi trychinebau pob dydd yn ddoniolwch pur, dyma'r noson allan i chi.

Dyma noson sy'n addo anrhefn a phobl ryfedd!