Am

Wrth i’r cymeriad lliwgar, Henry Paget gyrraedd gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatraidd a’i dueddiadau ecsentrig herfeiddiol yn ysgwyd y crachach i’r carn, er mawr ddifyrrwch i bobl y dref.

Mae Callum Scott Howells, a enwebwyd am BAFTA (It’s a Sin) yn arwain cast llawn sêr, gan gynnwys Rupert Everett (An Ideal Husband), Ruby Stokes (Bridgerton), yr enillydd BAFTA Siobhán McSweeney (Derry Girls), yn y comedi-ddrama byrlymus hwn a ysbrydolwyd gan stori wir.