Am
Bydd rhan o Gastell Ystumllwynarth unwaith eto'n cael ei gorchuddio â lliw coch ym mis Tachwedd wrth i deyrnged arbennig a arweinir gan y gymuned ddychwelyd ar gyfer tymor y Cofio.
Mae miloedd o babïau wedi'u gwneud â llaw wedi'u gosod gan y Swansea Yarn Bombers, sydd wedi treulio oriau di-rif yn crosio pabïau a'u gwnïo'n unigol ar rwydi i baratoi ar gyfer yr arddangosfa. Mae'r prosiect hefyd wedi'i gefnogi gan gyfraniadau gan breswylwyr Abertawe a rhoddion o bob cwr o'r byd, gan dynnu sylw at y gefnogaeth eang i'r deyrnged.
Mae'r arddangosfa drawiadol wedi'i gosod gyda chefnogaeth Cyfeillion Castell Ystumllwynarth a gellir ei gweld ar dir y castell rhwng 4 Tachwedd ac 11 Tachwedd. Er bod Castell Ystumllwynarth bellach ar gau ar gyfer tymor y gaeaf, mae'r pabïau'n weladwy o'r tu allan i furiau'r castell i aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno talu teyrnged.
Mae'r arddangosfa emosiynol yn talu teyrnged i'r miloedd o bobl leol sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog dros y blynyddoedd, o gyn-filwyr i'r rheini sydd wedi colli eu bywydau wrth wasanaethu dros eu gwlad.