Am
Dewch draw i Ganolfan Dylan Thomas dros Wyliau’r Pasg i ddarganfod ein llwybr newydd sbon ‘Hoff Losin Dylan’!
Roedd Dylan yn arfer dwlu ar fwyta losin yn y bath ac ysgrifennodd am rai o’i ffefrynnau yn ei straeon a’i ddarllediadau. Roedd e’ hefyd yn arfer prynu’i losin yn siop losin Mrs Ferguson cyn mynd i weld ffilm yn sinema Uplands. Gan gymryd ysbrydoliaeth o hyn, rydym wedi cuddio jariau bach sy’n cynrychioli’r losin yn yr arddangosfa Dwlu ar y Geiriau – allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd? Mae’n hwyl i bawb yn y teulu, waeth beth yw’ch oed, ac mae gwobr os dewch chi o hyd i bob jar.
Am ddim