Am
Mae'r Magic Men wedi gwerthu dros 1 miliwn o docynnau ar draws y byd a nawr mae'r noson fwyaf i fenywod yn dod i chi.
Un o'r prif berfformwyr yw'r seren ryngwladol Will Parfitt, y mae ei berfformiadau eiconig wedi cael eu gwylio dros 2 biliwn o weithiau ar TikTok, gan ei wneud yn ffenomen go iawn ym mhedwar ban byd.
Ar ôl torri sawl record yn gwerthu tocynnau, a gwerthu pob tocyn ar gyfer arenâu ar draws Ewrop, mae'r Magic Men yn dod i'r DU gyda'u cynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol hyd yma: beiddgar, llawn egni a hollol ddigyfaddawd.
Bydd y sioe fyd-enwog hon yn wahanol i unrhyw beth rydych chi erioed wedi'i brofi. Yn ogystal â difyrru'r gynulleidfa, mae'r dynion hyn o Awstralia, sy'n enwog am eu perfformiadau gwyllt a'u presenoldeb hudolus ar y llwyfan, yn cynnwys y gynulleidfa hefyd (ac yn gwahodd pobl i ymuno â nhw ar y llwyfan). Nid sioe yn unig yw Magic Men, ond parti! Un noson. Un sioe. Un profiad bythgofiadwy.
Bydd gwestai VIP (a'r rhai sydd wedi talu am docynnau cwrdd a chyfarch) yn cael cwrdd â'r cast a bydd cyfle arbennig i dynnu llun gyda nhw.
18+