Am
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 29 Tachwedd i 22 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd.
Bydd llawer o wynebau cyfarwydd yn aros i’ch cyfarch ond mae rhai masnachwyr gwych newydd hefyd – y bydd rhai ohonynt yma am ychydig amser yn unig: Dydd Gwener 5 - Dydd Sul 7 Rhagfyr, Dydd Gwener 12 - Dydd Sul 14 Rhagfyr.
Mae’r Bar Alpine yn cynnig seddi cyfforddus dan gysgod, siocledi poeth moethus blasus a gwin y gaeaf twym – y trît perffaith ar ôl yr holl siopa!
Sicrhewch eich bod yn dilyn Facebook hefyd gan y byddwn yn postio’r newyddion diweddaraf am Farchnad Nadolig Abertawe.