Am
Marchnad stryd yn Sgwâr Dylan Thomas, dafliad carreg o’r Amgueddfa, yn cynnig amrywiaeth o fwyd ffres blasus a chrefftau cartref cain.
Dan ofal trefnwyr marchnad hynod boblogaidd Uplands bydd yma stondinau gwych i ymgolli ynddynt ar ddydd Sul mewn lleoliad hyfryd.